Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Rhowch y dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa gyda'n cwrs Gwyddor Anifeiliaid newydd gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle gorau i chi mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus byddwch wedi datblygu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Yn Aberystwyth, mae gwyddor Anifeiliaid yn canolbwyntio ar wyddor yr anifeiliaid a ddefnyddir gan bobl. Yma, mae hyn yn golygu anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Mae gwyddonwyr anifeiliaid yn astudio maetheg, bridio, ffrwythlondeb, iechyd, ymddygiad, ffisioleg ac anatomeg ystod eang o anifeiliaid dof. Mae ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus yn defnyddio'r anifeiliaid hyn bob dydd.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
2ail yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes pwnc Gwyddor Anifeliaid (ACF 2018).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Mae maes llafur y cwrs hwn gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, BSc Gwyddor Anifeiliaid (D306). Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon; asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd. Nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich talu am y profiad gwaith. (Os na allwch ddod o hyd i leoliad, bydd angen i chi drosglwyddo i'w chwaer gwrs, BSc Gwyddor Anifeiliaid (D306).
Yn ystod eich blwyddyn o brofiad gwaith, byddwch yn talu ffioedd dysgu gostyngol, a gellir dod o hyd i'r manylion yma.
Mae ein hystod eang o gyfleusterau'n cynnwys: cyfleuster ceffylau modern sy'n darparu adnoddau addysgol, cystadlu a stablau hurio.
Strwythur hyblyg i'r cwrs, sy'n caniatáu i chi ganolbwyntio ar un o'r meysydd hyn yn yr ail a'r drydedd flwyddyn: Gwyddor Anifeiliaid Anwes a Cheffylau neu Wyddor Anifeiliaid Fferm.
Mae'r Brifysgol yn cynnig dros 1000 hectar o dir amaeth, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir, buches laeth â 500 o wartheg, systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang, canolfan geffylau a haid o ieir dodwy.
Coetir prifysgol sydd â thros gant o flychau nythu a chartrefi ar gyfer natur.
Gall myfyrwyr fwynhau cynefinoedd hardd ar garreg y drws, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwych ar gyfer gwaith maes a hamdden.
Rhywogaethau carismatig fel barcutiaid coch, dolffiniaid trwyn potel, a rhagor...
Mae IBERS yn gartref i amgueddfa fendigedig sy'n llawn sbesimenau swolegol hanesyddol.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd y radd hon yn caniatáu i chi archwilio gyrfa mewn:
Asesu llesiant anifeiliaid dof
Defnyddio geneteg i gynyddu effeithlonrwydd rhaglenni bridio ar gyfer anifeiliaid dof
Maetheg anifeiliaid
Addysgu, gan gynnwys mewn addysg bellach neu addysg uwch
Ymchwil ar draws sbectrwm Gwyddor Anifeiliaid
Cyhoeddi gwyddonol
Gwaith labordy yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus
Beth ydw i'n ei ennill o astudio Gwyddor Anifeiliaid?
Yn ogystal â'r cyrsiau sy'n benodol i yrfa, mae ein gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, megis arsylwi, ymchwilio, dadansoddi ac ôl-fyfyrio.
Byddwch hefyd yn astudio mewn adran sydd wedi buddsoddi dros £55 miliwn yn y seilwaith o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr.
Mae gan yr adran gysylltiadau agos gyda llawer o gymdeithasau dysgedig megis Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain, a sefydliadau ymchwil rhyngwladol, sy'n cynnig ffordd wych o rwydweithio gyda'r rhai yn eich maes.
Eich blwyddyn mewn diwydiant:
Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.
Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:
I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.
Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.
Dysgu ac Addysgu
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
Anatomeg a ffisioleg anifeiliaid dof
Systemau cynhyrchu prif anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, cywion brwylio ac wyau)
Strwythur y celloedd
Biomoleciwlau
Geneteg
Metaboledd
A hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu ac ymchwil
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:
Ffisioleg ac anatomeg atgenhedlu mamolaidd yn ymwneud â da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
Llesiant anifeiliaid
Y system imiwnedd
Bydd gennych opsiwn i ddilyn llwybr ceffylau, da byw neu ymddygiadol, gyda modiwlau sy'n benodol i'r llwybrau hyn
Y deunydd sydd ei angen ar gyfer y traethawd hir yn eich blwyddyn olaf
Cyfle i gynnal cyfnod o brofiad gwaith
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i'r radd BSc Gwyddor Anifeiliaid.
Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio:
Biotechnoleg anifeiliaid
Bridio anifeiliaid
Parasitoleg
Clefydau heintus
Byddwch yn parhau i ddilyn y llwybr o'ch dewis, gyda'i fodiwlau penodol
Cyflawni traethawd hir gorfodol
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.
Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor anifeiliaid. Gwneir hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.