Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio'r radd Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol, sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
Mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, ac mae'n cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid.
Mae galw mawr am raddedigion y cwrs hwn ar draws llawer o ddiwydiannau, am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Mae Mathemateg yn bwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i ddynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd, o'r byd hynafol hyd heddiw. Mae iaith Mathemateg yn sail i ran fawr o'r byd modern – o wyddoniaeth, technoleg a pheirianneg, i gyllid a masnachu – ac felly bydd yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfaol i chi.
Pam astudio Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur yn Aberystwyth?
Byddwch yn datgelu disgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, gan gyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol.
Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfaol i chi, ac mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
Mae'r Adran yn cynnig sawl modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Ein Staff
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau canlynol:
dadansoddi ystadegol ac ystadegau cyfrifiadol
addysgu
peirianneg awyrennol
cyfrifo a bancio
dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
technoleg gwybodaeth
Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu.
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol;
sgiliau ymchwil a dadansoddi data
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau trefnu a rheoli amser
y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn llwybr clir drwy astudiaeth o'r disgyblaethau craidd, gan gynnwys:
algebra a chalcwlws
geometreg gyfesurynnol a fector
tebygolrwydd
dadansoddi mathemategol
hafaliadau differol ac ystadegau
Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:
dadansoddi real a chymhleth
algebra haniaethol a llinol
ffiseg fathemategol
Mae modiwlau opsiynol yn cynnwys dadansoddi rhifiadol a hydrodynameg.
Byddwch hefyd yn cyflawni modiwl gorfodol cynllunio gyrfa fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.