Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio'r radd Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn darganfod disgyblaeth ddiddorol a heriol sy'n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda choladu a chyfrifo data. Mae Mathemateg ac Ystadegaeth yn sylfaenol bwysig i gymdeithas fodern, ac yn cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid ac mae galw mawr gan ddiwydiant am raddedigion y radd hon. Byddwch yn cael eich addysgu drwy ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol sydd â chymarebau staff/myfyrwyr da.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Mae Mathemateg yn bwnc sydd wedi cyfareddu dynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd o'r henfyd hyd heddiw. Mae iaith Mathemateg yn sail i gymaint o'r byd modern – o wyddoniaeth, technoleg a pheirianneg, i gyllid a masnach – sy'n agor ystod eang o gyfleoedd gyrfaol i chi.
Pam astudio Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegaeth yn Aberystwyth?
Byddwch yn datgelu disgyblaeth sy'n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda choladu a chyfrifo data.
Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae'r radd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), cymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer mathemateg, gan gyfrannu'n uniongyrchol at eich cydnabyddiaeth fel Mathemategydd Siartredig.
Mae'r Adran yn cynnig llawer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Ein Staff
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi dod o hyd i waith yn y sectorau canlynol:
dadansoddi ystadegol ac ystadegau cyfrifiannol
addysgu
peirianneg awyrennol
cyfrifo a bancio
dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
rheoli ariannol a dadansoddi buddsoddiadau
technoleg gwybodaeth.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu.
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Ar ôl cwblhau'r radd hon byddwch wedi ennill y sgiliau canlynol:
sgiliau ymchwil a dadansoddi data
sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
sgiliau trefnu a rheoli amser
y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae'r crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio pynciau mewn:
algebra a chalcwlws
geometreg
hafaliadau differol
tebygolrwydd ac ystadegau
dadansoddi mathemategol.
Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau ar bynciau a allai gynnwys:
dadansoddi a hafaliadau differol rhannol
algebra haniaethol a llinol
mecaneg a modelu ystadegol
dosraniadau ac amcangyfrif
dulliau ystadegol
atchweliad a dadansoddiad amrywiant (ANOVA).
Mae modiwlau dewisol yn cynnwys dadansoddi cymhleth a rhifiadol, hydrodynameg, samplo, a ffiseg fathemategol.
Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwl cynllunio gyrfa gorfodol fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Cyflwynir y radd hon drwy ddarlithoedd, tiwtorialau ac ymarferion.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Rhagor o wybodaeth:
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.