BSc

Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod GH7P Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys datblygu systemau artiffisial, ac mae'n dod yn gynyddol berthnasol i fywyd masnachol a domestig.

Mae enghreifftiau o systemau artiffisial presennol ac sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys robotiaid cartref (ar gyfer adloniant neu i gynorthwyo pobl ag anghenion arbennig), systemau rheoli cadwyni cyflenwi, a robotiaid a ddefnyddir mewn arfer meddygol, a robotiaid yn y gofod, ar y tir ac ar y môr.

Mae ymchwilwyr o Aberystwyth wedi bod yn weithgar ym mhob un o'r meysydd hyn. Byddwch yn dod i ddeall hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg mewn amgylchedd dysgu cefnogol, gyda chyfle i roi'r dechrau gorau i'ch gyrfa gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant a Hyfforddiant Proffesiynol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Cewch fynediad at robotiaid awyrol a symudol, systemau tracio symudedd a gweld, systemau micro-reoli a sganwyr laser.
  • Cewch fynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
  • Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
  • Cewch fynediad at offer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Artificial Intelligence CS26520 20
C and C++ CS23820 20
Cylch Bywyd Datblygiad Meddalwedd CC22120 20
Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data CC21120 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0160 60
Sandwich Year CSS0760 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Major Project CS39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Robotic Applications CS36620 20
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Machine Learning CS36220 20

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn gwella a datblygu eich:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • agiliau trefnu
  • agiliau gweithredu
  • agiliau ymchwil
  • agiliau technegol.

Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:

  • sgiliau CV
  • ymarfer ar gyfer cyfweliad
  • rhwydweithio gyda chyflogwyr
  • presenoldeb ar-lein.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • C a C++ ac amgylcheddau
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect, dylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
  • roboteg a systemau mewnblanedig
  • deallusrwydd artiffisial
  • strwythurau data ac algorithmau.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle, a byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifiadura hollbresennol
  • dysgu peirianyddol
  • roboteg y gofod
  • materion proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol/grŵp.

  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn gwrs gwych gan ei fod nid yn unig yn rhoi adborth cadarn i chi bod yr hyn rydych chi'n ei wneud yn gweithio - wrth weld robot yn symud fel y mae i fod i'w wneud neu hyd yn oed drwy weld un synhwyrydd neu fodur yn ymddwyn yn gywir - mae hefyd yn teimlo'n greadigol iawn, gan eich bod chi'n creu rhywbeth sy'n gallu ymateb i unrhyw fath o amgylchedd neu fewnbwn, a hyd yn oed dysgu sut i ymateb i bethau nad yw wedi'u gweld o'r blaen. Mathew Hathaway

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|