Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys datblygu systemau artiffisial, ac mae'n dod yn gynyddol berthnasol i fywyd masnachol a domestig.
Mae enghreifftiau o systemau artiffisial presennol ac sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys robotiaid cartref (ar gyfer adloniant neu i gynorthwyo pobl ag anghenion arbennig), systemau rheoli cadwyni cyflenwi, a robotiaid a ddefnyddir mewn arfer meddygol, a robotiaid yn y gofod, ar y tir ac ar y môr.
Mae ymchwilwyr o Aberystwyth wedi bod yn weithgar ym mhob un o'r meysydd hyn. Byddwch yn dod i ddeall hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg mewn amgylchedd dysgu cefnogol, gyda chyfle i roi'r dechrau gorau i'ch gyrfa gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant a Hyfforddiant Proffesiynol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% o’r myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
Cewch fynediad at robotiaid awyrol a symudol, systemau tracio symudedd a gweld, systemau micro-reoli a sganwyr laser.
Cewch fynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
Cewch fynediad at offer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff
Mae gan bron bob un o ddarlithwyr a chymrodyr dysgu’r Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd a chymrawd dysgu newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:
dylunio meddalwedd
cyfathrebu a rhwydweithio
rhaglenni cyfrifiadurol
datblygu'r we
rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
dadansoddi a datblygu systemau
addysg.
Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?
Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.
Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.
Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:
sgiliau cyfathrebu
sgiliau dadansoddol
rheoli amser
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
agiliau trefnu
agiliau gweithredu
agiliau ymchwil
agiliau technegol.
Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:
sgiliau CV
ymarfer ar gyfer cyfweliad
rhwydweithio gyda chyflogwyr
presenoldeb ar-lein.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:
rhaglennu
isadeiledd cyfrifiaduron
datblygu'r we
problemau ac atebion.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:
C a C++ ac amgylcheddau
cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect, dylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
roboteg a systemau mewnblanedig
deallusrwydd artiffisial
strwythurau data ac algorithmau.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle, a byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:
cyfrifiadura hollbresennol
dysgu peirianyddol
roboteg y gofod
materion proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura
prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol/grŵp.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Mae Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn gwrs gwych gan ei fod nid yn unig yn rhoi adborth cadarn i chi bod yr hyn rydych chi'n ei wneud yn gweithio - wrth weld robot yn symud fel y mae i fod i'w wneud neu hyd yn oed drwy weld un synhwyrydd neu fodur yn ymddwyn yn gywir - mae hefyd yn teimlo'n greadigol iawn, gan eich bod chi'n creu rhywbeth sy'n gallu ymateb i unrhyw fath o amgylchedd neu fewnbwn, a hyd yn oed dysgu sut i ymateb i bethau nad yw wedi'u gweld o'r blaen. Mathew Hathaway