BSc

Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg

Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg Cod GH76 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys datblygu systemau artiffisial, ac mae'n dod yn gynyddol berthnasol i fywyd masnachol a domestig.

Mae enghreifftiau o systemau artiffisial presennol ac sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys robotiaid cartref (ar gyfer adloniant neu i gynorthwyo pobl ag anghenion arbennig), systemau rheoli cadwyni cyflenwi, a robotiaid a ddefnyddir mewn arfer meddygol, robotiaid yn y gofod, ar y tir ac ar y môr.

Mae ymchwilwyr o Aberystwyth wedi bod yn weithgar ym mhob un o'r meysydd hyn. Byddwch yn dod i ddeall hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Trosolwg o'r Cwrs

Trosolwg

Pam astudio Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn Aberystwyth?

  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Cewch fynediad at robotiaid awyrol a symudol, systemau tracio symudedd a gweld, systemau micro-reoli a sganwyr laser.
  • Cewch fynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X..
  • Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd,
  • Cewch fynediad at offer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data CC21120 20
Artificial Intelligence CS26520 20
C and C++ CS23820 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Major Project CS39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Robotic Applications CS36010 10
Space Robotics CS36510 10
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Machine Learning CS36220 20

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

Eich blwyddyn mewn diwydiant:

Bydd cyflawni blwyddyn yn y diwydiant yn eich galluogi:

  • i gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith
  • i wneud cysylltiadau yn y diwydiant
  • i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio
  • i gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio
  • i wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol.

Diddordeb mewn lleoliad gwaith?

Os ydych chi'n awyddus i gyflawni Blwyddyn mewn Diwydiant, yna gallwch newid i'n cynllun gradd GH7P. Mae'r cynllun hwn yr un peth â chynllun GH76, ond rydym yn rhoi blwyddyn ychwanegol i chi ei threulio yn y Diwydiant.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech gael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • C a C++ ac amgylcheddau
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect, dylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
  • roboteg a systemau mewnblanedig
  • deallusrwydd artiffisial
  • strwythurau data ac algorithmau.

Yn eich blwyddyn olaf, gallech wneud y canlynol:

  • cyfrifiadura hollbresennol
  • dysgu peirianyddol
  • roboteg y gofod
  • materion proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.

Eich tiwtor personol

Drwy gydol eich amser yn Aberystwyth, bydd gennych gyfle i gwrdd yn rheolaidd â thiwtor personol, a all gynnig cymorth gydag unrhyw anhawster gyda'ch gradd neu fywyd yn y brifysgol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Bydd eich gradd yn rhoi ystod o sgiliau a phrofiadau i chi, a fydd yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Ochr yn ochr â'r sgiliau sy'n hanfodol i'r rhan fwyaf o swyddi yn y diwydiant meddalwedd, bydd eich gradd yn rhoi mantais i chi mewn meysydd megis dylunio a rhaglennu robotiaid deallusol, roboteg feddygol, roboteg ddiwydiannol sydd angen rhywfaint o ddeallusrwydd artiffisial, a rhaglennu softbot i greu rhaglenni ar gyfer problemau masnachol. Yn ogystal, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy, megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, sy'n angenrheidiol er mwyn llwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Mae'r Adran hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi wella eich cyflogadwyedd. Bydd y penwythnos gweithgaredd yn ystod y flwyddyn gyntaf yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ac adeiladu tîm, a bydd y digwyddiad gyrfaoedd yn ystod yr ail flwyddyn yn rhoi arweiniad i chi ar sut i lunio CV a rhoi cyflwyniadau. Yn ogystal, bydd cyfle i gynnal ffug-gyfweliadau gyda phobl yn y diwydiant meddalwedd. Drwy gydol eich gradd, bydd y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn rhoi nifer o ddarlithoedd ar bynciau a fydd yn cynnwys profion seicometrig, llunio CV, a rhoi cyflwyniadau. Yn ogystal, bydd y Portffolio Datblygiad Personol, sef proses o fyfyrio, hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer y dyfodol, yn eich helpu i olrhain eich datblygiad drwy gydol y radd, a bydd yn eich helpu i benderfynu pa yrfa neu fath o astudiaeth bellach a fydd yn addas ar eich cyfer yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|