MPhys

Astroffiseg

Mae Astroffiseg (F511) gyda Gradd Meistr Integredig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys disgyblaethau eang Seryddiaeth, ac yn eu plith mae: Cosmoleg a Seryddiaeth Alaethog, Cysawd yr Haul, Cewri Nwy a Bydoedd Daearol, Cewri Coch, Corachod Gwyn, Sêr Niwtron, Cwasarau a mwy.

Mae hyn yn caniatáu i chi brofi maes eang o addysg, ac arbenigo yn nes ymlaen yn eich gyrfa. Gyda sylfaen ym meysydd allweddol Ffiseg a Seryddiaeth, a gaiff eu dysgu mewn amgylchedd cefnogol, byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy y mae ar gyflogwyr eu heisiau, yn y ddisgyblaeth hon, ar gyfer addysg, busnes a'r diwydiant.

Trosolwg o'r Cwrs

Institute of Physics - Juno Practitioner


Pam astudio Astroffiseg yn Aberystwyth?

  • Ar ôl gorffen y radd hon, byddwch yn gadael gydag achrediad gan yr IOP (Y Sefydliad Ffiseg) a chymhwyster Meistr.
  • Mae Ffiseg wedi cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
  • Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Numerical Techniques for Physicists PH26620 20
Optics PH22010 10
Sgiliau Ymchwil Ymarferol FG25720 20
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Stars and Planets PH28620 20
Thermodynamics PH21510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astrophysics I: Physics of the Sun PH39620 20
Astrophysics II: Galaxies, General Relativity and Cosmology PH39820 20
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Prosiect (40 Credyd) FG37540 40

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Quantum Physics PHM3010 10
Advanced Research Topics PHM7020 20
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg FGM6420 20
Electromagnetic Theory PHM2510 10
Prif Brosiect FGM5860 60

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn ffiseg?

Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • ffiseg feddygol
  • diogelu rhag ymbelydredd
  • gwyddor ymchwil

Mae graddedigion eraill o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • datblygu systemau
  • datblygu cynnyrch
  • cyhoeddi technegol
  • meteoroleg

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • prif ganghennau ffiseg glasurol a modern, sydd â disgyblaethau mathemategol craidd algebra a chalcwlws yn sail iddynt
  • ffiseg gyfrifiadol ac arbrofol
  • damcaniaeth cwantwm
  • deinameg
  • egwyddorion meysydd disgyrchiant ac electrostatig

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • ochr fewnol yr haul
  • sêr
  • planedau ac atmosfferau planedol
  • ffiseg thermol
  • mecaneg cwantwm
  • ffiseg fathemategol
  • trin data
  • ystadegau

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, gallech ymchwilio:

  • cosmoleg
  • galaethau
  • plasmâu'r gofod
  • yr atmosffer solar
  • yr heliosffer ochr yn ochr â mater cyddwysedig
  • atomau a moleciwlau
  • electromagneteg

Yn ystod eich pedwaredd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • damcaniaeth electromagneteg
  • technoleg cwantwm
  • ffiseg fodern
  • dulliau rhifiadol uwch

Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect estynedig ac yn cael cymryd rhan mewn cwrs preswyl dwys, sy'n cynnwys sesiynau ar gynllunio prosiect, cyfathrebu, a sgiliau hunan-reoli, a gwaith grŵp strwythuredig ar gyflwyno ac asesu prosiectau.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd ag Astroffiseg oherwydd mae'r bydysawd yn rhyfeddod llwyr, sy'n dod o ddeddf ffisegol natur. Mae cymysgedd cymhleth o egni, màs, disgyrchiant, meysydd magnetig a thrydanol yn creu bywyd a'r galaethau hardd rydyn ni'n eu gweld yn yr awyr gyda'r nos. Pam na fyddai rhywun am astudio hynny? Mae dysgu am ddarlun mawr y bydysawd yn lle cael eich cyfyngu i broblemau dibwys bywyd bob dydd yn magu cymeriad ac yn fenter werthfawr. Geoffrey Knott

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Physics and B in Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Mathematics and Physics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|