Mae'r cynllun gradd Astroffiseg yn Aberystwyth wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb cyffredinol mewn seryddiaeth ond nad ydynt am gyfyngu eu hunain i un maes penodol. Mae'n cynnig modiwlau ehangach mewn cosmoleg a seryddiaeth alaethog, sy'n golygu bod modd i chi gadw'ch opsiynau yn agored. Yna, gallwch arbenigo yn nes ymlaen pe baech chi'n datblygu diddordeb mewn maes penodol.
Pam astudio Astroffiseg yn Aberystwyth?
Mae ein cyrsiau Ffiseg wedi'u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IoP), cymdeithas wyddonol flaenllaw sy'n ymgysylltu â llunwyr polisi a'r cyhoedd i ddatblygu addysg, ymchwil a chymhwysiad ffiseg, gan roi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
Mae Ffiseg wedi'i haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pwnc. Er gwaethaf ein treftadaeth, rydym yn parhau i arloesi i sicrhau bod y cynlluniau gradd rydym yn eu cynnig yn eich galluogi i gael y radd Ffiseg orau gallwch chi.
Mae ein darlithwyr hefyd yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd perthnasol, felly gallwch fod yn hyderus y bydd eich profiad dysgu wedi'i lywio gan y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf ynghyd ag offeryniaeth, modelu a thechnegau blaengar. Yn asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014), cafodd y brifysgol ei chynnwys ymhlith yr hanner cant sefydliad uchaf ar gyfer grym a dwysedd ymchwil. Cyflwynwyd 77% o'r staff cymwys i'r Fframwaith, a nodwyd bod 95% o ymchwil y brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae'r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Adran.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.
Rhagolygon gyrfaol
Bydd gradd mewn Astroffiseg yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd fel gwyddonydd gofod, ffisegydd, technegydd labordy gwyddonol, ymarferydd diogelu rhag ymbelydredd, a gwyddonydd ymchwil. Gall llwybrau gyrfaol eraill gynnwys datblygwr systemau, gwyddonydd datblygu cynnyrch, awdur technegol, neu feteorolegwr. Bydd astudiaeth bellach ar lefel ôl-raddedig yn agor drysau at ymchwil, darlithio ac addysgu.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd Astroffiseg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- sgiliau ymchwil a dadansoddi data
- sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)
Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.
GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, ac mae'n gweithio gyda busnesau lleol i greu lleoliadau gwaith cyflogedig am gyfnod o ychydig wythnosau i fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr, a fydd yn gwella eich CV ac yn eich gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr posib.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Byddwch yn gosod sylfeini ar gyfer astudio yn y dyfodol drwy archwilio prif ganghennau ffiseg glasurol a modern, sydd â disgyblaethau mathemategol craidd algebra a chalcwlws yn sail iddynt. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ffiseg arbrofol a chyfrifiadol, damcaniaeth cwantwm, deinameg, ac egwyddorion sylfaenol meysydd disgyrchiant ac electrostatig. Bydd modd i chi ddewis hefyd o blith nifer o fodiwlau opsiynol i weddu i'ch diddordebau.
Byddwch yn archwilio ochr fewnol yr haul, sêr, planedau ac atmosfferau planedol, ynghyd â ffiseg thermol, mecaneg cwantwm, ffiseg fathemategol a thrin data ac ystadegau.
Byddwch yn ymchwilio cosmoleg, galaethau, plasmâu'r gofod, yr amgylchedd solar a'r heliosffêr, ochr yn ochr â mater cyddwysedig, atomau a moleciwlau ac electromagnetedd. Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect arbennig o'ch dewis dan arweiniad eich goruchwylydd prosiect personol.
Gallwch hefyd ddewis cyflawni modiwl cynllunio gyrfa fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon o ran cael swyddi ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i weithdai, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp. Rhoddir pwyslais cryf ar waith prosiect sy'n gysylltiedig â diddordebau ymchwil gweithredol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, traethodau, cyflwyniadau, profion aml-ddewis, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.