BA

Cymdeithaseg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y radd BA Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich hyfforddi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r byd cymdeithasol ac i ymgysylltu ag ef. Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn datblygu sylfaen drylwyr yn y dulliau cysyniadol a damcaniaethol sydd wedi cael eu defnyddio gan gymdeithasegwyr i astudio'r byd o'n cwmpas. Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i ddadansoddi ffenomenau cymdeithasol drwy hyfforddiant yn y gwaith o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data cymdeithasegol. 

Mae rhai o'r elfennau arbennig o agwedd Aberystwyth tuag at gymdeithaseg yn cynnwys: 

  • pwysleisio gwerth ac arwyddocâd dulliau maes mewn cymdeithaseg, gydag ymarferion maes yn cael eu hintegreiddio mewn modiwlau darlithoedd, a modiwl penodol ar Gymdeithaseg Maes ym mlwyddyn 2
  • integreiddio mwy o safbwyntiau cymhwysol yn yr addysgu a wnawn ar themâu a chysyniadau allweddol mewn Cymdeithaseg i ddangos ei harwyddocâd yn y byd go iawn (ac, wrth wneud hynny, helpu gyda chyflogadwyedd ein graddedigion Cymdeithaseg)
  • defnyddio ein cryfderau ymchwil a sicrhau bod myfyrwyr yn agored i ddealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig arloesol o'r byd cymdeithasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd gradd BA Cymdeithaseg yn Aberystwyth yn eich galluogi:

  • i werthuso syniadau, cysyniadau a dulliau gweithredu'n feirniadol ar draws y pwnc cyfan ac o fewn canghennau penodol o Gymdeithaseg;
  • i gynnal ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau mewn perthynas â chasglu, dadansoddi a chyflwyno data; datblygu ystod o sgiliau a gallu eu cymhwyso i amrywiaeth o faterion Cymdeithasegol
  • i gydnabod bod eich profiad dysgu wedi'i atgyfnerthu'n gadarnhaol drwy ddod i gysylltiad ag ymchwil;
  • i werthuso eich perfformiad eich hun mewn ystod o gyd-destunau dysgu ac o dan wahanol ddulliau asesu;
  • i weithio'n annibynnol, mewn tîm a chydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o'r cyfraniad a wneir gan ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu disgyblaeth i bolisi cymdeithasol
  • i feddu ar y sgiliau a'r ymwybyddiaeth angenrheidiol i chwilio am waith mewn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol neu i ddechrau ymchwil ac astudio uwchraddedig.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Conflict and Change: the making of urban and rural spaces GS10220 20
Introducing Sociological Research GS17120 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Place and Identity GS14220 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Byw mewn Byd Peryglus DA10020 20
Conceptual and Historical Issues in Psychology PS11820 20
Globalization and Global Development IP12520 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol DA10520 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cementing Sociological Research GS20620 20
Introduction to Social Theory GS25020 20
Quantitative Data Analysis GS23810 10
Ymchwilio i bobl a lle DA20510 10
Sociological Research in the 'Field' GS21620 20
Understanding (in)equality and (in)justice GS24220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM21920 20
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Everyday Social Worlds GS33320 20
Traethawd Estynedig Cymdeithaseg DA31240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cenedlaetholdeb a chymdeithas DA32220 20
Contemporary Global Migration GS39120 20
Gender and the Media FM38320 20
Memory Cultures: heritage, identity and power GS37920 20
Modern British Landscapes GS36220 20
The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives GS36820 20
The psychosocial century GS30020 20
Urban Risk and Environmental Resilience GS37520 20

Gyrfaoedd

Mae astudio Cymdeithaseg yn rhoi sylfaen gadarn i chi ystyried ystod eang o yrfaoedd yn cynnwys ym maes cyfryngau, gwaith cymdeithasol, datblygu rhyngwladol, ymgysylltu â'r gymuned, a'r gwasanaeth sifil i enwi dim ond rhai. Erbyn hyn, mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy'n meddu ar sgiliau amrywiol sy'n cynnwys y gallu i feddwl yn ddadansoddol ac yn ochrol. Mae'r radd BA mewn Cymdeithaseg yn rhoi ehangder a hyblygrwydd o ran sgiliau i chi, a dyna pam mae graddedigion Cymdeithaseg yn ddeniadol i gyflogwyr. 

Mae graddedigion Cymdeithaseg wedi mynd ymlaen i weithio yn y meysydd canlynol: 

  • troseddeg, yr Heddlu
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • gwaith cymdeithasol
  • polisi cymdeithasol (gan gynnwys tai cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, gweinyddu llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol)
  • rheoli
  • newyddiaduraeth
  • cysylltiadau cyhoeddus
  • addysgu
  • ymchwil. 

Cyfleoedd wrth astudio yn Aberystwyth: 

Profiad Gwaith/Blwyddyn mewn Diwydiant 

Mae'r Brifysgol yn gweithredu cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant. Cewch gymorth gan ein Tîm Gyrfaoedd. Edrychwch ar eu gwefan i weld pa feysydd mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd iddynt.

Cyfleoedd Rhyngwladol 

Mae'r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada. 

Dysgu ac Addysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs, byddwch yn cael eich cyflwyno i brif gysyniadau, themâu a safbwyntiau Cymdeithaseg, sy'n cynnwys: 

  • cysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi bod ym maes Cymdeithaseg, ac sy'n datblygu ar hyn o bryd
  • y berthynas rhwng unigolion, grwpiau a strwythurau cymdeithasol
  • amrywiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldebau
  • rôl prosesau sydd wedi'u trefnu'n ddiwylliannol mewn bywyd
  • prosesau sy'n tanategu newid cymdeithasol
  • cymeriad arbennig Cymdeithaseg mewn perthynas â mathau eraill o ddealltwriaeth, fel ei pherthynas gyda disgyblaethau eraill a gydag esboniadau bob dydd
  • y berthynas rhwng dadansoddi tystiolaeth a dadleuon cymdeithasegol.

Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, bydd yr addysgu'n canolbwyntio ar y canlynol: 

  • modiwlau gwybodaeth a dealltwriaeth graidd i ddatblygu eich galluoedd o'ch modiwlau blwyddyn gyntaf
  • amrywiaeth o ffynonellau data ansoddol, meintiol a digidol, strategaethau ymchwil a dulliau o gasglu a dadansoddi data
  • pwysigrwydd materion moesegol ym mhob math o gasglu data, dadansoddi a dadlau cymdeithasegol
  • dosbarthiadau ymarferol ac ymarferion gwaith maes.

Yn ystod cyfnod y cwrs byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a gwaith maes. Bydd eich asesiadau'n dibynnu ar y modiwlau a ddewiswch, ond mae'n bosib y cewch eich asesu drwy'r dulliau canlynol: Arholiadau; Dosbarthiadau ymarferol; Gwaith maes; Gwaith cwrs; Traethawd hir.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|