Cymdeithaseg
BA Cymdeithaseg Cod L300
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
L300-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
47%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd y radd BA Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich hyfforddi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r byd cymdeithasol ac i ymgysylltu ag ef. Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn datblygu sylfaen drylwyr yn y dulliau cysyniadol a damcaniaethol sydd wedi cael eu defnyddio gan gymdeithasegwyr i astudio'r byd o'n cwmpas. Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i ddadansoddi ffenomenau cymdeithasol drwy hyfforddiant yn y gwaith o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data cymdeithasegol.
Mae rhai o'r elfennau arbennig o agwedd Aberystwyth tuag at gymdeithaseg yn cynnwys:
- pwysleisio gwerth ac arwyddocâd dulliau maes mewn cymdeithaseg, gydag ymarferion maes yn cael eu hintegreiddio mewn modiwlau darlithoedd, a modiwl penodol ar Gymdeithaseg Maes ym mlwyddyn 2
- integreiddio mwy o safbwyntiau cymhwysol yn yr addysgu a wnawn ar themâu a chysyniadau allweddol mewn Cymdeithaseg i ddangos ei harwyddocâd yn y byd go iawn (ac, wrth wneud hynny, helpu gyda chyflogadwyedd ein graddedigion Cymdeithaseg)
- defnyddio ein cryfderau ymchwil a sicrhau bod myfyrwyr yn agored i ddealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig arloesol o'r byd cymdeithasol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU ym maes Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Lefel A BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|