Bioleg a Newid Hinsawdd Cod FC71 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
FC71-
Tariff UCAS
120 to include B in A-level Biology or equivalent - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
32%
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae ein cyrsiau gradd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio ffyrdd creadigol o ymateb i heriau a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd presennol. Bydd yn rhoi ichi wybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r pwnc, ynghyd â’r sgiliau a’r priodoleddau amlddisgyblaethol, rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Os mai eich bwriad yw cael dylanwad mwy cadarnhaol ar y byd, bydd y cynllun hwn yn gychwyn cadarn ar y daith honno, a fydd yn un llawn boddhad.
Ar y radd hon, byddwch yn dysgu am y wyddoniaeth sy’n sail i brosesau’r hinsawdd, a sut mae dynol ryw wedi newid y prosesau hyn yn y cyfnod diweddar. Byddwch yn archwilio effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ar lefel rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau, a’r posibilrwydd y bydd organebau a phoblogaethau yn esblygu yn sgil y bygythiad hwn. Gan weithio ar draws disgyblaethau, byddwch yn dysgu am yr angen am ymchwil wyddonol a mesurau rheoli wrth fynd i’r afael.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 to include B in A-level Biology or equivalent - 104
Safon Uwch BBB-BCC with B in Biology/Human Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|