BSc

Bioleg a Newid Hinsawdd

Mae ein cyrsiau gradd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio ffyrdd creadigol o ymateb i heriau a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd presennol. Bydd yn rhoi ichi wybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r pwnc, ynghyd â’r sgiliau a’r priodoleddau amlddisgyblaethol, rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Os mai eich bwriad yw cael dylanwad mwy cadarnhaol ar y byd, bydd y cynllun hwn yn gychwyn cadarn ar y daith honno, a fydd yn un llawn boddhad.

Ar y radd hon, byddwch yn dysgu am y wyddoniaeth sy’n sail i brosesau’r hinsawdd, a sut mae dynol ryw wedi newid y prosesau hyn yn y cyfnod diweddar. Byddwch yn archwilio effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ar lefel rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau, a’r posibilrwydd y bydd organebau a phoblogaethau yn esblygu yn sgil y bygythiad hwn. Gan weithio ar draws disgyblaethau, byddwch yn dysgu am yr angen am ymchwil wyddonol a mesurau rheoli wrth fynd i’r afael.

â’r materion pwysig hyn.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs tair blynedd safonol, Bioleg a Newid Hinsawdd (FC71). Cynlluniwyd y cwrs pedair blynedd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu’r sgiliau academaidd y bydd eu hangen arnoch i astudio cwrs gradd israddedig, a byddwch yn mynd ymlaen i astudio’r un pynciau â’r myfyrwyr ar y cwrs BSc Bioleg a Newid Hinsawdd tair blynedd (FC71) o’r ail flwyddyn.

Ar y radd hon, byddwch yn astudio effeithiau Newid Hinsawdd ar y byd byw, o organebau i ecosystemau cyfan, a’u goblygiadau i'r gwaith o warchod bioamrywiaeth. Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a gwaith maes ochr yn ochr â’r wybodaeth ddamcaniaethol sy’n sail i'r pwnc. Ar rai modiwlau byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr o adrannau eraill hefyd (Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Busnes, a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) ac fe’ch anogir i edrych ar y pwnc o sawl safbwynt. 

Byddwch yn dysgu am y wyddoniaeth sy’n sail i brosesau’r hinsawdd, a sut mae dynol ryw wedi newid y prosesau hyn yn y cyfnod diweddar. Byddwch yn archwilio effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth ar lefel rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau, a’r posibilrwydd y bydd organebau a phoblogaethau yn esblygu yn sgil y bygythiad hwn. Gan weithio ar draws disgyblaethau, byddwch yn dysgu am yr angen am ymchwil wyddonol a mesurau rheoli wrth fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn. 

Mae gan Aberystwyth a’r ardal o’i chwmpas amrywiaeth eang o gynefinoedd ac ecosystemau lleol, ar y môr a’r tir - lleoliad delfrydol i astudio effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth, a’r cyfleoedd i liniaru’r newid hwnnw. Cewch gyfle i gynnal ymchwil yn y maes, yn lleol a thramor, ac i weithio gydag ymchwilwyr academaidd cydnabyddedig sy’n gweithio ar amrywiol agweddau ar effeithiau newid hinsawdd byd-eang ar ecosystemau naturiol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20
Environmental Microbiology and Monitoring BR26020 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
One Health Microbiology BR26520 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Wildlife Conservation BR34520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Environmental Regulation and Consultancy BR35620 20
Freshwater Biology Field Course BR37720 20
Marine Biology Field Course BR30020 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20

Gyrfaoedd

Gyda gradd mewn Bioleg a Newid Hinsawdd byddwch mewn sefyllfa dda i fynd ar ôl gyrfa ym maes rheoli, addasu a lliniaru newid hinsawdd, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn ogystal â hynny, gallai gyrfaoedd mewn meysydd cysylltiedig, megis addysg amgylcheddol a gwaith ymgynghorol neu gadwraeth weddu i chi. Mae nifer o raddedigion yn dewis mynd ymlaen i astudio am radd uwchraddedig, ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn dilyn y Flwyddyn Sylfaen, bydd y maes llafur yr un fath ag ar y cwrs tair blynedd BSc Bioleg a Newid Hinsawdd (FC71), fel yn yr wybodaeth ganlynol. 

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn ymchwilio ystod eang o bynciau craidd sy’n cynnwys ecoleg, amrywiaeth microbaidd, y biosffer, y blaned werdd, esblygiad ac amrywiaeth bywyd. Bwriad hyn yw rhoi sylfaen gadarn i chi ym maes Bioleg a Newid Hinsawdd. Cewch hefyd ddethol eich modiwlau eich hun o blith y rhai sydd ar gael. 

Yn yr trydydd blwyddyn, byddwch yn ymchwilio i wahanol ffactorau newid amgylcheddol y dyfodol a sut y bydd hyn yn effeithio ar blanhigion, anifeiliaid ac ecosystemau. Byddwch hefyd yn archwilio prosesau gwneud penderfyniadau, y negodi a’r wleidyddiaeth sy’n ymwneud â llywodraethu hinsawdd yn yr oes sydd ohoni. I baratoi ar gyfer traethawd hir y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio’r prosesau sy’n sail i gynllunio ymchwil wyddonol dda. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn archwilio natur a maint bioamrywiaeth, o lefel amrywiaeth genetig i fiomau ac fe gewch eich cyflwyno i ddulliau o fesur a monitro newid mewn bioamrywiaeth ar wahanol lefelau. Byddwch yn ystyried bygythiadau anthropogenig y presennol a’r dyfodol i'r systemau naturiol ac i ddynol ryw, gan gynnwys effeithiau megis llygredd, newid yn yr hinsawdd a gor-ymelwa ar adnoddau. Yn olaf, byddwch yn ymgymryd â darn o ymchwil fanwl ar thema sy’n cyd-fynd â’ch gradd neu eich diddordebau. Mae hwn yn brofiad sy’n uchafbwynt i'r cwrs ac oherwydd yr ystod o ymchwil yn Aberystwyth ni chewch drafferth yn dod o hyd i brosiect sy’n ennyn eich diddordeb ac sy’n datblygu eich sgiliau gwyddonol. Gall y prosiectau fod yn rhai sy’n seiliedig ar waith labordy neu waith maes, neu’n astudiaethau dadansoddi data, ond bydd y cyfan yn eich helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddi uwch. 

Yn ychwanegol at y modiwlau craidd a ddisgrifir uchod, cewch gyfle i ddethol modiwlau eraill sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau chi. Rydym yn cynnig ystod eang o fodiwlau ac efallai y byddwch am ystyried pynciau nad ydych wedi meddwl amdanynt o’r blaen. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Nid darlithoedd ac arholiadau yw popeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar waith maes ac ymarferol er mwyn gadael i chi faeddu eich dwylo ac adeiladu sgiliau ymarferol a dadansoddol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa ym maes Biowyddorau ac addysgu, ond maent hefyd yn gwneud graddedigion Bioleg yn bobl ddeniadol i gyflogwyr mewn llawer o sectorau eraill. Mae seminarau, tiwtorialau a chyrsiau maes preswyl hefyd yn chwarae rôl wrth addysgu yma. Ein nod yw gwneud popeth a wnawn yn gwbl hygyrch i bawb, ac mae ein staff addysgu a'n staff cymorth yn ymroddedig i hyn. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Wrth gwrs, mae'n rhaid sefyll arholiadau, ond mae gan bob modiwl fwy nag un math o asesiad. Mae asesiadau gwaith cwrs yn amrywio o adroddiadau ymarferol neu adroddiadau maes i ysgrifennu erthyglau sy'n gweddu i gyfnodolyn a gwneud podlediadau. Mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio nid yn unig i brofi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, maent hefyd yn adeiladu sgiliau ar gyfer y byd go iawn, er enghraifft sgiliau gwaith tîm, cyflwyno ac ysgrifennu adroddiadau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd raddedig. Pan fyddwn yn addysgu ac yn arholi, rydym yn anelu at greu gwyddonwyr y dyfodol a darpar gyflogeion o'r radd flaenaf ar yr un pryd. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|