Gwyddorau Biofeddygol (Maeth, Iechyd ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)
BSc Gwyddorau Biofeddygol (Maeth, Iechyd ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod B991
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
B991-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
4 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
19%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae'r radd BSc Gwyddorau Biofeddygol yn caniatáu i chi archwilio cynnydd a thriniaeth afiechydon dynol drwy astudio sut mae celloedd, organau a systemau yn y corff dynol yn gweithredu. Drwy gydol y cwrs gradd, rhoddir ffocws penodol ar glefydau sy'n gysylltiedig ag oedran. Byddwch hefyd yn archwilio'r dulliau gwahanol o drin afiechydon a'r ystyriaethau o ran ffordd o fyw a ddefnyddir i helpu pobl i i fyw a heneiddio'n iach. Ymhellach, byddwch yn ennill y sgiliau labordy sydd eu hangen i adnabod a thrin clefydau dynol.
Byddwch yn archwilio'r broses o gyflwyno, rhannu, dileu a metaboleiddio cyffuriau yng nghyd-destun eu defnydd clinigol a dylunio cyffuriau. Byddwch hefyd yn gallu ymchwilio i sut y bydd maeth yn effeithio ar iechyd dynol yn ogystal â datblygu a chymhwyso dulliau arbrofol a ddefnyddir i asesu ffwythiant genynnau drwy ddilyniannu a mapio genom. O'r dadansoddiadau hyn, bydd gwybodaeth yn llywio strategaethau rhagfynegol newydd, gan nodi genynnau newydd a defnyddiol a thargedau posib ar gyfer cyffuriau; bydd dealltwriaeth o ymddygiad genynnau, a datblygiad cynhyrchion therapiwtig newydd hefyd yn cael ei darparu.
Ar y radd hon byddwch yn gwella eich rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda'n blwyddyn integredig mewn diwydiant, a all arwain at yrfaoedd ym meysydd addysgu, gofal iechyd clinigol a chymunedol, geneteg glinigol, dadansoddi fforensig mewn labordai neu batholeg ddiagnostig. Bydd gyrfaoedd yn y sector treialon clinigol a rheoleiddio, y Gwasanaeth Iechyd neu'r diwydiannau ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiannau fferyllol, diagnosteg, dyfeisiau meddygol/offer labordy hefyd ar gael.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC with B in Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM in Applied Science. Alternative biology based Level 3 courses may be considered.
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|