BSc

Amaethyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Her fyd-eang sy’n wynebu Amaethyddiaeth yw bwydo poblogaeth gynyddol yn erbyn cefndir o adnoddau sy’n lleihau, ynghyd â’r angen i ddiogelu’r amgylchedd, ac i ymdopi â newid yn yr hinsawdd a’i liniaru. Mae amaethyddiaeth yn wynebu blaenoriaethau newydd yn agosach i gartref hefyd, wrth i’r Deyrnas Unedig ailddiffinio ei pherthynas ag Ewrop. Ar y radd hon byddwch yn cwmpasu pob agwedd ar amaethyddiaeth, a hefyd yn datblygu dealltwriaeth fanwl o’r modd y mae byd amaeth yn newid.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ymdriniaeth fanwl i chi o amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bynciau hanfodol bwysig fel cynaliadwyedd, rheolaeth amgylcheddol a thechnoleg. Bydd yn rhoi i chi’r ddealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol sydd ei hangen i reoli busnes cynaliadwy, a’ch paratoi i fabwysiadu’r arferion gorau, wedi'u llywio gan ymchwil gyfredol, i fynd i'r afael â’r heriau a ddaw o reoli da byw a chnydau a chael y gorau o'ch busnes amaethyddol.  

Byddwch yn astudio cyfuniad diddorol o wyddoniaeth, technoleg a rheoli ynghyd â sylfaen gadarn mewn ffisioleg a hwsmonaeth anifeiliaid a chnydau yn ogystal â busnes, economeg a defnydd tir. Byddwch yn symud ymlaen i ddysgu am systemau cynhyrchu cyfredol a rhagamcanol o safbwyntiau cynhyrchu, arian a’r amgylchedd, a bod yn agored i arfer gorau gan ymgyfarwyddo â'r ymchwil ddiweddaraf. 

Yn ogystal, byddwch yn ymgyfarwyddo â rôl yr Arolwg o Fusnesau Ffermio o ran dadansoddi a meincnodi cymharol - offeryn a fydd yn amhrisiadwy yn eich gwaith yn y dyfodol, â’ch galluogi i gymharu perfformiad a phroffidioldeb eich fferm â ffermydd eraill yn y DU a’r UE.    

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Farm Business Management and Appraisal BR21020 20
Food, Farming and the Environment BR21920 20
Livestock Production Systems BR20420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Agriculture BR34820 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Critical Review BR36320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Crop and Grassland Production Science BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Sustainable Land Management BR30420 20

Gyrfaoedd

Bydd eich BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant pellach. Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn sawl maes ym myd amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, gan gynnwys rheoli mentrau amaethyddol a ffermydd, iechyd a maeth anifeiliaid, gweinyddu a gwleidyddiaeth amaethyddol, agronomeg cnydau a glaswelltir, yn ogystal â gyrfaoedd gweinyddol, ymgynghori a gwerthu gyda chwmnïau cyflenwadau amaethyddol, ac ystod eang o swyddi yn y diwydiannau ategol.   Drwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n hawdd i bron unrhyw sefyllfa cyflogaeth raddedig neu broffesiynol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r technolegau sy'n cael eu datblygu fwyfwy ar gyfer y diwydiant amaethyddol a'u mabwysiadu ganddo. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir ac yn ystyried y prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau ar gyfer y fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau. 

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn edrych ar y diwydiannau da byw ym Mhrydain, systemau cynhyrchu cnydau a’u strategaethau, a byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi, creu cyllideb ac arfarnu busnes fferm. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn edrych ar y ffordd y defnyddir ymchwil i ddatblygu systemau mwy effeithlon o gynhyrchu anifeiliaid. Byddwch yn ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol ar draws ystod o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ac yn ennill dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig.

Bydd ymweliadau â ffermydd, canolfannau ymchwil, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn ran annatod o’r cwrs gan amlygu’r materion allweddol dan sylw a’ch galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ddefnyddio eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. 

Asesu:

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, cynlluniau busnes, adolygiadau o destunau academaidd, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. Bydd prosiect ymchwil gorfodol yn eich blwyddyn olaf yn eich galluogi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd. Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes, yn cynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol neu gynnwys dadansoddi data.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar amaethyddiaeth. Fel arfer mae'r wybodaeth am bynciau pwysig a gaiff ei rhoi mewn darlithoedd yn syml ond yn drylwyr, sy'n golygu bod y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae'n ddiddorol clywed safbwyntiau'r ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n cyflwyno systemau i weddu i'w busnes hefyd. Aled Rhys Lewis

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, i gyd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coedwigoedd tawel, golygfeydd syfrdanol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|