BSc

Amaethyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Drwy ddewis astudio'r cwrs Amaethyddiaeth tair blynedd hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn ymuno ag un o'r adrannau Amaethyddiaeth uchaf eu parch ym Mhrydain. Amaethyddiaeth yw prif gynheiliad cymunedau gwledig, ac mae'n sector diwydiant sylweddol yng ngwledydd Prydain. Mae ehangder y radd Amaethyddiaeth yn cynnwys pob agwedd ar amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, a bydd yn rhoi dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol i chi allu rheoli busnes cynaliadwy.

Dyma pam ein bod yn meddwl bod Aberystwyth yn lle gwych i chi

  • Byddwch yn cael eich addysgu mewn modd ysbrydoledig sy'n darparu'r sgiliau ymarferol a'r sail wybodaeth wyddonol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Byddwch yn ymweld â ffermydd a busnesau sy'n arwain y diwydiant o ran arloesedd a dealltwriaeth dechnegol.
  • Gallwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs BSc Amaethyddiaeth yn cynnig addysg fanwl i chi o bob agwedd ar y diwydiant amaeth, ac yn edrych ar ystod o bynciau hynod bwysig fel cynaliadwyedd, rheolaeth amgylcheddol a thechnoleg. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant modern hwn, diwydiant lle mae gofyn am ddealltwriaeth fanwl ar draws ystod eang o feysydd.

Byddwch yn astudio cyfuniad diddorol o wyddoniaeth, technoleg a rheoli, gyda sail gadarn mewn hwsmonaeth a ffisioleg cnydau ac anifeiliaid, ynghyd â busnes, economeg a defnydd o dir. Byddwch yn symud ymlaen i astudio systemau cynhyrchu'r presennol a'r dyfodol o safbwynt ariannol, amgylcheddol a chynhyrchu, a byddwch yn dod i gysylltiad â'r arferion gorau ac yn ymgyfarwyddo â'r ymchwil mwyaf gyfredol.

Ein Ffermydd

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o ffermdir a thir amaeth. Yn ogystal, cewch fynediad at 1,000 hectar o ffermydd y brifysgol, sy'n cael eu rheoli'n fasnachol gan yr Athrofa ynghyd â chael eu defnyddio ar gyfer addysgu ac ymchwil.

Sefydliad sydd wedi ennill gwobrau a fydd yn eich helpu chi i gyrraedd eich llawn botensial!

Darperir y radd hon gan IBERS, sef ein Hathrofa arobryn i'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, sydd hefyd yn gartref i'r Arolwg o Fusnesau Ffermio. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu enw rhagorol ledled y byd am ei haddysg a'i hymchwil ym maes amaethyddiaeth a gwyddorau gwledig, ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yw'r adran brifysgol fwyaf o'i bath gyda'r adnoddau gorau yng ngwledydd Prydain.

  • Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobr "Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn" yng Ngwobrau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg Ewrop, a Gwobr Myfyrwyr Undeb Adarwyr Cymru!
  • Daeth cyflwyniad Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, yn y pumed safle yng ngwledydd Prydain yn asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).

Staff addysgu angerddol sy'n arbenigwyr yn eu maes

Mae llawer wedi ennill gwobrau am eu haddysgu ac maent yn dod o gefndiroedd amrywiol gydag ystod eang o arbenigedd a chysylltiadau eang gyda'r diwydiant amaeth. Gallwch fod yn sicr y byddwch yn dysgu gan y goreuon!

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Caiff rhai o'n modiwlau eu haddysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os byddwch yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bosib y byddwch yn gymwys am fwrsariaeth.

Cliciwch y tab ‘dysgu ac addysgu i ddarllen mwy.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomy and Crop Improvement BR27620 20
Farm Business Management and Appraisal BR21020 20
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd BG21920 20
Livestock Production Systems BR20420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Nutrition of Livestock, Horses and Companion Animals BR20720 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Agriculture BR34820 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Critical Review BR36320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Crop and Grassland Production Science BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
The Agri-Environment BR30420 20

Gyrfaoedd

Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd drwy gydol y cynllun gradd. Bydd y radd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau arbenigol, fel y gallu i gyflawni ystod o sgiliau ystâd ymarferol a chynllunio prosiect ar y safle, ynghyd â datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr i gyflogwyr. Byddwch yn ymuno ag adran sydd â chyfleusterau ardderchog i gefnogi eich astudiaethau; buddsoddwyd £55 miliwn yn isadeiledd IBERS yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'r cyfleusterau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth arbenigol, sy'n eu paratoi i drosglwyddo'n llwyddiannus i'r gweithle. Gyda mynediad at ffermydd niferus y brifysgol, bydd gennych y gallu a'r sgiliau craidd y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ar ôl cwblhau'r radd Amaethyddiaeth yn llwyddiannus. Mae gan staff IBERS gysylltiadau agos â llawer o gymdeithasau dysgedig, sy'n cynnig llwybr i fyfyrwyr allu rhwydweithio gydag eraill yn eu disgyblaeth ac archwilio cyfleoedd am gyllid a chydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae darlithwyr gwadd ac athrawon arbenigol allanol hefyd yn cyfrannu at y cwricwlwm er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd.

Mae gan yr adran adnoddau ar y rhith-amgylchedd dysgu, sef Aberlearn Blackboard, er mwyn cefnogi eich datblygiad. Mae ganddi hefyd dudalen Twitter bwrpasol er mwyn rhoi gwybod i'r myfyrwyr am gyfleoedd datblygu a phrofiad gwaith. 

Mae eich BSc mewn Amaethyddiaeth yn agor drws at ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer swyddi a hyfforddiant pellach. Byddwch yn ymgeisydd cryf am swyddi fel ymgynghorydd amaethyddol, rheolwr fferm, agronomegydd a maethegydd anifeiliaid, ac ystod eang o swyddi yn y diwydiannau ategol a gyda'r llywodraeth ac awdurdodau lleol. Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n hawdd i bron unrhyw sefyllfa gyflogaeth broffesiynol neu raddedig.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r technolegau sy'n gael eu datblygu a'u defnyddio'n gynyddol yn y diwydiant amaeth. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd o dir, ac yn archwilio'r adnoddau cynradd sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn archwilio diwydiannau da byw Prydain, strategaethau a systemau cynhyrchu cnydau, ac yn dysgu sut i ddadansoddi, cyllidebu a gwerthuso busnes fferm.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio technegau cynllunio busnes, a byddwch yn dysgu sut i lunio cynlluniau busnes fferm manwl. Byddwch hefyd yn edrych ar ddatblygiadau diweddar mewn systemau cynhyrchu cnydau, strategaethau bridio planhigion modern a defnydd o gnydau ar gyfer cynhyrchu bioynni, ochr yn ochr â systemau cynhyrchu anifeiliaid ac effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau amaethyddol. Bydd cwrs maes wythnos o hyd fydd yn cynnwys ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n rhan o waith rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn eich galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd rhai agweddau ar y cwrs yn dibynnu ar e-ddysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, gyda chefnogaeth gweithdai cyfrifiadurol. Bydd gennych gyfleoedd niferus i gymhwyso eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Byddwch hefyd yn edrych ar y cysylltiad rhwng ymchwil a dadansoddi a'u hallbynnau yn y byd go iawn ar ffurf gwell technoleg, cnydau a lles anifeiliaid.

Byddwch yn cael eich asesu drwy ddulliau niferus, gan gynnwys traethodau, ymarferion ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, wicis, dyddiaduron myfyriol, cynlluniau busnes, adolygiadau llenyddol, erthyglau cylchgronau, llyfrau nodiadau maes ac arholiadau. Bydd traethawd hir gorfodol yn ystod eich blwyddyn olaf yn eich galluogi i gyflawni ymchwil manwl o dan gyfarwyddyd goruchwylydd. Gallai eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion mewn labordai neu ymarferion gwaith maes, gallai gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol, neu gynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth wyddonol sydd wedi'i chyhoeddi.

Bydd diwylliant dysgu academaidd a galwedigaethol bywiog y brifysgol yn eich cynorthwyo yn eich hyfforddiant amaethyddol ac yn eich annog i fanteisio ar y cyfleoedd niferus yn yr adran a'r brifysgol i ddatblygu eich arbenigedd ymarferol a damcaniaethol i sicrhau y byddwch, wrth raddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, i ddatblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac i ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar amaethyddiaeth. Fel arfer mae'r wybodaeth am bynciau pwysig a gaiff ei rhoi mewn darlithoedd yn syml ond yn drylwyr, sy'n golygu bod y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae'n ddiddorol clywed safbwyntiau'r ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n cyflwyno systemau i weddu i'w busnes hefyd. Aled Rhys Lewis

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, i gyd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coedwigoedd tawel, golygfeydd syfrdanol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|