BSc

Busnes a Newid Hinsawdd

Mae ein planed yn wynebu 'Argyfwng Hinsawdd'.  Y newid yn yr hinsawdd yw'r her amgylcheddol fwyaf y mae'r byd wedi'i hwynebu erioed.  Mae allyriadau carbon sy'n cael eu creu gan bobl wedi arwain at gynnydd digynsail yn y tymheredd drwy’r byd, ac mae hyn yn cael effeithiau sylweddol ar systemau dynol, cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a naturiol.  Mae'r berthynas rhwng newid yn yr hinsawdd a chymdeithas yn un hynod o gymhleth, ond mae'r wybodaeth a'r dechnoleg ar gael inni er mwyn lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd, ac felly leddfu'r pwysau ar leoedd, pobl a bywyd gwyllt mwyaf bregus ein byd.  Dim ond mynd ati i wireddu hyn sydd angen inni ei wneud.

Mae busnesau yn gyfranwyr allweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond maent hefyd yn rhan o’r ateb. Mae busnesau na fyddant yn ymateb i her yr hinsawdd yn debygol o wynebu costau uwch o ran trethi carbon a llai o gwsmeriaid. Ar y llaw arall, mae busnesau mwy blaengar sy’n addasu trwy ddatgarboneiddio a datblygu cynnyrch gwyrdd yn debygol o gynyddu eu perfformiad ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol - eu sylfaen driphlyg. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Busnes a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Bydd y radd Busnes a Newid Hinsawdd yn eich paratoi i ddod yn arweinwyr busnesau’r dyfodol a fydd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â newid yn yr hinsawdd trwy ddatblygu strategaethau ac arferion ystyrlon o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Ar y radd hon, byddwch yn cyfuno gwybodaeth am wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd â’r sgiliau sydd eu hangen i arwain busnes llwyddiannus. Mae’r radd yn archwilio ffyrdd creadigol y gall busnesau ymateb i her a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd presennol, a bydd yn rhoi ichi wybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r pwnc, ynghyd â’r sgiliau a’r priodoleddau rhyngddisgyblaethol, rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Os mai eich bwriad yw cael dylanwad mwy cadarnhaol ar eich byd, bydd y cynllun hwn yn gychwyn cadarn ar y daith honno. 

Bydd myfyrwyr sy'n astudio Busnes a Newid Hinsawdd yn Aberystwyth yn:  

  • Datblygu dull rhyngddisgyblaethol penodol o ran sut mae busnesau'n esbonio newid hinsawdd ac yn ymateb iddo.  
  • Dadansoddi achosion a chanlyniadau newid hinsawdd a’r dirywiad amgylcheddol, yn benodol o safbwynt busnes  
  • Astudio sefydliadau, eu rheolaeth a'r amgylchedd allanol lle maent yn gweithredu (gan gynnwys newid hinsawdd) wrth iddo newid. Mae'r rhaglen yn cwmpasu ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys rhai cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw, ac mae'n canolbwyntio ar y meysydd rheoli swyddogaethol allweddol ar y lefelau strategol a gweithredol fel ei gilydd.  
  • Paratoi ar gyfer gyrfa ym maes busnes a rheolaeth, gan gynnwys datblygu ystod o wybodaeth a sgiliau busnes penodol, ynghyd â gwell hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol sy'n briodol i raddedigion sydd â'r potensial i symud ymlaen i swyddi arweinyddiaeth. Mae'r rhaglen yn annog datblygu agweddau cadarnhaol a beirniadol tuag at newid a menter 
  • Gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygiad personol i gyfrannu at gymdeithas yn gyffredinol  
  • Datblygu a gwella ystod o sgiliau deallusol a sgiliau astudio trosglwyddadwy cyffredinol, sydd, er eu bod yn hynod briodol i yrfaoedd ym maes busnes a rheolaeth, nid ydynt yn gyfyngedig i'r dewisiadau gyrfa hyn 
  • Datblygu graddedigion busnes sy’n cydnabod cyfrifoldebau cymdeithasol, gan gynnwys ym maes newid yn yr hinsawdd.  
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Climate and Climate Change BR16620 20
Interdisciplinary Approaches to Climate Change EN19920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig CB35540 40
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Crisis Writing WR31820 20
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Environmental Economics AB33220 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Global Logistics AB35320 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Population and Community Ecology BR33920 20

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Isod ceir rhestr sy'n amlinellu'r modiwlau y gellir eu hastudio ar y cwrs yma.  

Blwyddyn 1: 

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu sylfaen gref o bynciau busnes, gan gynnwys modiwlau ar ddadansoddi data, rheolaeth, marchnata, economeg, a chyfrifeg a chyllid. Cyfunir y rhain â modiwlau arloesol sy'n trin a thrafod gwyddoniaeth yr hinsawdd yn ogystal ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, y canfyddiadau ohono a'r addasiadau iddo.  

Blwyddyn 2: 

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu rhagor ar eich gwybodaeth am reoli busnes a cheir modiwlau ar: reoli adnoddau dynol, llywodraethu corfforaethol, a rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Byddwch hefyd yn magu dealltwriaeth ddyfnach o faterion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd trwy gyfrwng modiwlau rhyngddisgyblaethol ar reoli newid hinsawdd.  Bydd modiwl mewn dulliau ymchwil yn rhoi ichi'r sgiliau ymchwil i integreiddio eich gwybodaeth ledled gwahanol ddisgyblaethau er mwyn mynd i'r afael ag ymatebion busnes i newid yn yr hinsawdd. Yn olaf, bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth arbenigol ynghylch materion yn ymwneud â busnes a newid yn yr hinsawdd.  

Blwyddyn 3: 

Bydd eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddatblygu rhagor ar eich sgiliau arwain busnes, gyda modiwlau ar arweinyddiaeth strategol a seicoleg sefydliadol. Gallwch hefyd ddewis o blith ystod eang o fodiwlau Rheoli Busnes a Newid Hinsawdd sy'n cyd-fynd â'ch anghenion dysgu a'ch anghenion proffesiynol. Gan ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi ei magu trwy gydol eich astudiaethau, bydd eich traethawd estynedig yn y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio'n fanwl i fater yn ymwneud ag effaith heriau'r argyfwng hinsawdd ar fusnesau, neu sut maent yn ymateb i'r heriau hynny.  

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|