BSc

Busnes a Rheolaeth a Chyfrifiadura

Busnes a Rheolaeth a Chyfrifiadura Cod NG14 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r BSc Rheoli Busnes a Chyfrifiadureg yn rhoi dealltwriaeth gyflawn i chi o hanfodion busnes ac mae’r elfennau cyfrifiadureg yn rhoi i chi’r cyfle i astudio ymhellach y rhyngweithio rhwng sefydliadau, gweithwyr a rhanddeiliaid eraill trwy eu cysylltiadau digidol. Yn ogystal ag astudio meddalwedd, caledwedd a thechnegau cyfrifiadureg, bydd y radd hon yn pwysleisio’r elfennau o fusnes a chyfrifiadureg sy’n ymwneud â’r rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, gan ganolbwyntio ar ddatblygu a rheoli effeithiol.  

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Rheoli Busnes a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Ar ôl cwblhau'r radd hon bydd gennych ddealltwriaeth eang o reoli ymarferol, gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, a gafael gadarn ar gymhlethdod heriau rheoli ac effeithiau cyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol sy’n wynebu arweinwyr.

Mae'r radd Rheoli Busnes wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), a’r fantais i chi yw, ar ôl graddio, y byddwch yn gymwys i gael eithriadau rhag gorfod ennill rhai cymwysterau os ydych am gael achrediad proffesiynol yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae elfen gyfrifiadurol y cwrs hwn wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig TG (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n golygu y gallwch ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dod o hyd i atebion i ddatrys problemau, a’u gweithredu.

Mae'r gydnabyddiaeth hon gan y gwahanol gyrff proffesiynol yn dangos ansawdd dysgu'r ddwy adran academaidd, gan sicrhau y byddwch yn graddio gyda'r radd orau bosib, elfen y mae Prifysgol Aberystwyth yn manteisio arni wrth anelu at ei nod o ddarparu dysgu o safon ragorol. 

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael y cyfle i gael profiad o labordai pwrpasol ar gyfer Linux, Mac OS X ac o weinyddwyr canolog, yn ogystal ag offer roboteg gan gynnwys Arduinos, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.

O ystyried natur ymarferol y radd hon, cewch eich dysgu gan ymarferwyr yn academia ac ym myd diwydiant, sy’n sicrhau y cewch gyfle i ymdrwytho yn y pwnc ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a'u rhwydweithiau cysylltiedig. 

Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Programming for the Web CS25320 20
Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi CB25120 20
Rheolaeth Adnoddau Dynol CB25420 20
Cylch Bywyd Datblygiad Meddalwedd CC22120 20
Software Engineering for the Web CS22220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Entrepreneurship and New Venture Creation AB25220 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Rheolaeth Marchnata CB27120 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Byr CC39620 20
Financial Strategy AB31720 20
Strategic Leadership AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Global Logistics AB35320 20
Organizational Psychology AB35420 20

Gyrfaoedd

Mae'r BSc Rheoli Busnes a Chyfrifiadureg yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn busnes, rheolaeth neu gyfrifiadureg. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig modiwl ymgynghoriaeth / cyflogadwyedd pwrpasol lle mae myfyrwyr yn gwneud cais i gystadlu i fod yn aelodau o dîm o ymgynghorwyr i gwmni o fewn eu dewis ddiwydiant.

Mae ein graddedigion i’w cael mewn amryw yrfaoedd proffesiynol; mae rhai o'r diwydiannau allweddol yn cynnwys bancio buddsoddi, rheoli risg, yswiriant a gwarantu. Yn yr un modd, mae galw mawr am ein graddedigion mewn swyddi rheoli mwy cyffredinol, gan gynnwys rheoli manwerthu, y sector cyhoeddus, y GIG, dosbarthu a rheoli logisteg.

Byddwch yn graddio gydag ystod eang o sgiliau busnes a chyfrifiadura a fydd yn golygu y gallwch weithio mewn amryw swyddi, gan gynnwys dadansoddwr systemau, peiriannydd meddalwedd, rheolwr neu ymgynghorydd TG. Gallech ddewis gweithio mewn busnes, y sector cyhoeddus neu'r sector nid-er-elw ac mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i BAE Systems, Barclays, Experian, Microsoft a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bydd astudio ein cwrs gradd mewn Rheoli Busnes a Chyfrifiadureg yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi: 

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau
  • Gallu defnyddio sgiliau dadansoddi a meddwl creadigol ar gyfer gwneud penderfyniadau lefel uchel a datrys problemau
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar i hwyluso gwaith tîm a gwaith annibynnol llwyddiannus.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Cymerir agwedd gyfannol mewn busnes a rheolaeth yn eich blwyddyn gyntaf, yn edrych ar sylfeini’r ddisgyblaeth sy'n arwain at ddealltwriaeth dda o egwyddorion sylfaenol busnes, gan gynnwys y mecanweithiau a ddefnyddir i reoli mewn amryw ddiwydiannau, a’r effaith y mae'r amgylchedd busnes ac elfennau macro-amgylcheddol (megis Brecsit a COVID-19) yn ei chael ar reolaeth. Yn olaf, ystyrir y mecanweithiau cyfoes a ddefnyddir gan sefydliadau i gyfleu datganiadau gwerth i gwsmeriaid a marchnadoedd. Mewn Cyfrifiadureg, byddwch yn archwilio themâu fel y seilwaith cyfrifiadurol, rheoli ac optimeiddio TG, datblygu cymwysiadau ar y we a rhaglennu. Byddwch yn dysgu trwy gymhwyso problemau a gweithio mewn timau i ddod o hyd i atebion iddynt. 

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn ymdrin â chysyniadau busnes a rheoli craidd sy'n cynnwys ymddygiad a damcaniaeth sefydliadol, effeithiau strwythurau'r farchnad a strategaethau prisio, a datblygu a defnyddio, mewn modd effeithiol, dechnegau penodol i'r diwydiant ar gyfer rheoli gweithrediadau. Hefyd edrychir ar sut mae rheoli adnoddau dynol a thalent yn effeithio ar sut y gweithredir rheolaeth sefydliadol ac ar gynllunio arweinyddiaeth. Er mwyn atgyfnerthu’ch dealltwriaeth, cewch gyfle i gymhwyso'r damcaniaethau a nodwyd uchod mewn prosiect ymchwil annibynnol a fydd yn rhoi modd i chi archwilio'r sgiliau dadansoddol sy'n gysylltiedig â rhagoriaeth ym meysydd rheolaeth a chyfrifiadureg. Yn yr elfennau Cyfrifiadureg fe astudiwch strwythurau data a sut mae algorithmau’n cael eu ffurfio a’u defnyddio, y broses o ddatblygu a dosbarthu meddalwedd weithredol newydd, yn ogystal ag edrych ar sut y gallech datrys yr heriau i fusnesau sy'n dod i'r amlwg o ran integreiddio meddalwedd yn y modd mwyaf effeithiol â phrosesau busnes. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Bydd ein staff brwd yn eich dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, a gwaith prosiect unigol ac mewn grwpiau.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, sesiynau ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.

Er mwyn sicrhau eich bod yn perfformio'n gyson ac er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol, bydd tiwtor personol yn cael ei glustnodi i chi. Bydd rôl y tiwtor personol yn hanfodol i'ch profiad myfyriwr cyffredinol wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo â phob mater academaidd ac anacademaidd, yn helpu i sicrhau y meithrinir eich datblygiad academaidd, proffesiynol a phersonol yn y modd gorau posib.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch 96-120 UCAS Tariff

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
MMM-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
26-30

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|