BSc

Economeg Busnes

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein gradd mewn Economeg Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich paratoi i  allu datblygu datrysiadau busnes effeithiol gan ddefnyddio  gwybodaeth economaidd ymarferol. Byddwch yn dod i  ddeall y ffactorau economaidd sy’n dylanwadau ar lwyddiant  busnes a’r penderfyniadau a wneir yn fanwl. Byddwch hefyd  yn meithrin y sgiliau dadansoddi, cyfrifiadura a chyfathrebu  y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn y sector preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BSc Economeg Busnes ym Mhrisfyol Aberystwyth?

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, rydym yn canolbwyntio ar roi syniadau, gwybodaeth a dulliau economaidd ar waith yn ymarferol, a hynny 

yng nghyd-destun sefyllfaoedd proffesiynol lle mae angen gwneud penderfyniadau. Byddwch yn datblygu’r gallu i gymhwyso gwybodaeth economaidd i faterion yr ymdrinnir â hwy mewn nifer o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â pholisi busnes. Mae’r cynllun hwn hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o ystadegau busnes, econometreg a delweddu data, yn hytrach na’r ymdriniaeth fathemategol o gysyniadau a phrofion damcaniaethol yn unig.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth resymegol o economeg fel arf asesu dadansoddol, ac yn datblygu’r sgiliau proffesiynol i ddefnyddio micro-economeg a macro-economeg yn eu cyd-destun mewn amgylcheddau proffesiynol.

Dyma’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Economeg Busnes yn Aberystwyth:

  • clywed amrywiol safbwyntiau gan ymwelwyr gwadd o’r diwydiant fydd yn dod i roi darlithoedd
  • gwella’ch cyfleoedd gyrfaol trwy bartneriaethau â busnes, diwydiant a masnach
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n gwneud ymchwil, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn y maes.
Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Human Resource Management * AB25420 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Managerial Economics AB23320 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd BSc mewn Economeg Busnes yn cynnig cyfleoedd mewn meysydd megis dadansoddi polisi neu weinyddiaeth lywodraethol yn 

y sector cyhoeddus, y sector bancio a chyllid neu yn y sector preifat. Gallech hefyd weithio i gyrff anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yng Ngwasanaethau Economaidd y Llywodraeth, Trysorlys EM, y British Council, grŵp FDM, Nexus Financial Consulting, a Kiva. Mae llawer hefyd wedi dilyn ymchwil ac astudiaethau pellach mewn addysg uwch.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad sefydliadol
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.


Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Dyma’r modiwlau craidd y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Understanding the Economy
  • Economic Theory and Policy
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Data Analytics
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance.

Yn yr ail flwyddyn:

  • Microeconomics Theory and Policy
  • Macroeconomics Theory and Policy
  • Managerial Economics
  • Rheolaeth Adnoddau Dynol/Human Resource Management
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods.

Yn y trydedd flwyddyn:

  • Environmental Economics
  • Trade, Development and Growth
  • Organisational Psychology
  • Traethawd Hir/ Dissertation.

Mae modiwlau opsiynol ar gael er mwyn eich galluogi i gyfeirio'ch dysgu a'ch arbenigedd eich hun.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|