BSc

Economeg Busnes

Bydd ein gradd mewn Economeg Busnes yn eich paratoi i allu datblygu datrysiadau busnes effeithiol gan ddefnyddio gwybodaeth economaidd ymarferol. Byddwch yn dod i ddeall y ffactorau economaidd sy’n dylanwadu ar lwyddiant busnes a’r penderfyniadau a wneir yn fanwl. Byddwch hefyd yn meithrin y sgiliau dadansoddi, cyfrifiadura a chyfathrebu y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth resymegol o economeg fel arf asesu dadansoddol, ac yn datblygu’r sgiliau proffesiynol i ddefnyddio microeconomeg a macro-economeg yn eu cyd-destun mewn amgylcheddau proffesiynol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, rydym yn canolbwyntio ar roi syniadau, gwybodaeth a dulliau economaidd ar waith yn ymarferol, a hynny yng nghyd-destun sefyllfaoedd proffesiynol lle mae angen gwneud penderfyniadau. Byddwch yn datblygu’r gallu i gymhwyso gwybodaeth economaidd i faterion yr ymdrinnir â hwy mewn nifer o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â pholisi busnes.

Byddwch yn elwa o:

  • glywed amrywiol safbwyntiau gan ymwelwyr gwadd o’r diwydiant fydd yn dod i roi darlithoedd
  • gwella’ch cyfleoedd gyrfaol trwy bartneriaethau â busnes, diwydiant a masnach
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n gwneud ymchwil, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn y maes
  • cymryd rhan mewn cystadlaethau busnes.
Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Human Resource Management * AB25420 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Managerial Economics AB23320 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership AB35120 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd BSc mewn Economeg Busnes yn cynnig cyfleoedd mewn meysydd megis dadansoddi polisi neu weinyddiaeth lywodraethol yn y sector cyhoeddus, y sector bancio a chyllid neu yn y sector preifat. Gallech hefyd weithio i gyrff anllywodraethol a sefydliadau gwirfoddol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yng Ngwasanaethau Economaidd y Llywodraeth, Trysorlys EF, y Cyngor Prydeinig, grŵp FDM, Nexus Financial Consulting, a Kiva. Mae llawer hefyd wedi dilyn ymchwil ac astudiaethau pellach mewn addysg uwch.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad sefydliadol
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2
  • Economics, Finance and Accounting for Business
  • Foundations of Management and Marketing
  • Information Technology for University Students
  • Introduction to Statistics
  • The Mathematics Driving Licence.

Yr ail flwyddyn:

  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes
  • Economic Theory and Policy
  • Data Analytics.

Y dryddedd flwyddyn:

  • Microeconomics Theory and Policy
  • Macroeconomics Theory and Policy
  • Managerial Economics
  • Rheolaeth Adnoddau Dyno
  • Dulliau Ymchwil.

Y flwyddyn olaf:

  • Environmental Economics
  • Trade, Development and Growth
  • Organisational Psychology
  • Traethawd Hir.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|