BSc

Cyllid Busnes

Mae’r byd busnes yn heriol ac yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar gyllid. Mae’n fyd amrywiol lle mae gwahanol ffactorau’n dylanwadu ar berfformiad a rhagolygon busnes. Yn Aberystwyth, nod ein rhaglen yw rhoi ichi fframwaith cydlynol i ymdrin â materion megis strategaethau ariannol, y modd y gweinyddir gwasanaethau ariannol a rheoleiddio arian a chyllid.

Trosolwg o'r Cwrs

Dysgir elfennau cyllid y rhaglen er mwyn eich ysbrydoli a’ch dysgu am gymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol sylfaenol cyfrifeg er mwyn i sefydliadau allu gwneud penderfyniadau ariannol ar sail gwybodaeth.

Byddwch hefyd yn archwilio’r meysydd canlynol ar y cwrs hwn: cyllid rheoli, trethi, hanfodion buddsoddi, rheoli portffolios a chyllid byd-eang.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Cyllid Busnes yn Aberystwyth:

  • clywed amrywiol safbwyntiau gan ymwelwyr gwadd o’r diwydiant fydd yn dod i roi darlithoedd
  • cael eich eithrio o arholiadau cyrff cyfrifeg proffesiynol y DU
  • gwella’ch cyfleoedd gyrfaol trwy bartneriaethau â busnes, diwydiant a masnach
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n gwneud ymchwil, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn y maes pwnc
  • gweithio gyda Refinitiv Workspace sy’n rhoi cyfle i fanteisio ar ddata ariannol a dangosyddion economaidd cwmnïau, yn ogystal â newyddion a dadansoddi, i roi ichi brofiad dysgu mwy cyfoethog a rhyngweithiol
  • y cyfle i ymuno â’n Cymdeithas Buddsoddi er mwyn cymryd rhan mewn ymryson rhwng prifysgolion Cymru ac Iwerddon - cystadleuaeth y mae tîm Aberystwyth wedi ei hennill yn y blynyddoedd diweddar.


Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Technology and Business Success AB31820 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Mae cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion sydd â gradd mewn Cyllid Busnes yn cynnwys gweithio mewn meysydd megis bancio buddsoddi a manwerthu, ymgynghori ar reoli a chynllunio trethi.  

Mae llawer o’n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddiant cyllid i raddedigion ac yn dod o hyd i waith yn fuan iawn gyda busnesau a sefydliadau ariannol y DU neu’n rhyngwladol.  

Mae ein graddedigion wedi cael gyrfaoedd mewn: 

  • Strategaeth Ariannol. 
  • Proffesiwn actiwaraidd  
  • Bancio corfforaethol  
  • ⁠Treth 
  • Dadansoddi buddsoddi 
  • Masnachu ariannol 
  • Bancio manwerthu. 

Pa sgiliau fydd y radd hon yn ei rhoi i fi? 

Bydd astudio gradd mewn Cyllid Busnes yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi:  

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadol  
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol  
  • Dealltwriaeth ddofn o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • Datrys problemau’n effeithiol 
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol 
  • Gwneud penderfyniadau 
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael i mi wrth i mi astudio?  

Dysgwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn ei gynnig. Gallwch wella eich rhagolygon am swydd trwy ein Cynllun Blwyddyn mewn Gwait

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?  

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’n bosibl y byddwch yn dysgu am: 

  • Gyfrifeg ariannol  
  • Cyfrifon Rheoli  
  • Rheolaeth Ariannol 
  • Sgiliau a dulliau meintiol  
  • Rheolaeth 
  • Amgylchedd Busnes.  

Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried ac yn astudio: 

  • Buddsoddiadau ac offerynnau ariannol 
  • Cwmnïau 
  • Marchnadoedd 
  • Prisio 
  • Cyllid corfforaethol 
  • Treth 
  • Systemau ariannol Ewropeaidd a Rhyngwladol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.  

Asesu 

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy: 

  • Arholiadau 
  • Traethodau wedi'u hasesu 
  • Prosiectau 
  • Cyflwyniadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth sy'n berthnasol i fusnes yn ogystal â marchnadoedd y byd. Mae’n heriol, ond yn werth chweil ar yr un pryd. Mae’n anhygoel o hawdd mynd i sgwrsio â’r tiwtoriaid ac maent bob amser ar gael i siarad ac yn barod i helpu pryd bynnag y bydd angen rhywfaint o arweiniad arnoch. Mae'r holl gyngor gyrfaoedd yr wyf wedi'i gael hyd yn hyn wedi fy helpu i benderfynu ar y cyfeiriad yr hoffwn ei ddilyn yn ddelfrydol yn y dyfodol. Harry James Geyton 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|