BSc

Cyllid Busnes

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, y cwrs blwyddyn sylfaen integredig yw eich llwybr mynediad i’r cynllun gradd hynod boblogaidd hwn. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail gadarn gan eich cyflwyno i’r sgiliau a’r cymwyseddau angenrheidiol i allu mynd ymlaen i lwyddo ar y radd israddedig lawn.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn cynnig ichi ddealltwriaeth eang o’r cyd-destun i effaith mesur a datgelu gwybodaeth ariannol ar lif arian, polis.au mewnol a systemau rheoli. Bydd hyn yn eich galluogi i fagu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio data ariannol er mwyn dylanwadu ar reolwyr, buddsoddwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau; a sut gall y modd o gyflwyno gwybodaeth ariannol effeithio ar hirhoedledd (a phroffidioldeb/ cynaliadwyedd) cwmn.au neu sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Cyfrifeg a Chyllid yn Aberystwyth:

  • astudio am radd a achredir gan gyrff cyfrifeg sy’n flaengar yn rhyngwladol
  • cael eich addysgu a’ch mentora gan gyfrifyddion cydnabyddedig sydd llawer o brofiad yn y diwydiant yn ogystal . phrofiad academaidd
  • cael eich cyflwyno i faterion cyfreithiol sy’n berthnasol i’r amgylchedd busnes
  • cael eich eithrio o arholiadau prif gyrff arholi cyfrifeg y DU, sy'n cynnwys:
  • ACCA
  • CIMA
  • ICAEW
  • CIPFA
  • CII
  • ICAS

Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Technology and Business Success AB31820 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Mae cyfleoedd gwaith i raddedigion â gradd mewn Cyllid Busnes yn cynnwys gweithio mewn meysydd fel adwerthu a bancio buddsoddol, ymgynghori rheoli, a chynllunio treth. Mae nifer sylweddol o’n graddedigion yn mynd ymlaen i ymuno â chynlluniau hyfforddi cyllid i raddedigion ac yn dod o hyd i waith gyda chwmnïau a sefydliadau cyllid yn y DU ac yn rhyngwladol heb drafferth.


Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Economics, Finance and Accounting For Business
  • Foundations Of Management and Marketing
  • Information Technology for University Students
  • Introduction to Statistics
  • The Mathematics Driving Licence.

Yr ail flwyddyn:

  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance
  • Accounting and Finance for Specialists
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Economic Theory and Policy
  • Data Analytics.

Y drydedd flwyddyn:

  • Microeconomics Theory and Policy
  • Intermediate Financial Accounting
  • Intermediate Management Accounting
  • Corporate Governance, Risk and Ethics
  • Corporate Finance and Financial Markets
  • Macroeconomics Theory and Policy.

Y flwyddyn olaf:

  • Investments and Financial Instruments
  • Trade and International Monetary Systems
  • Growth, Development and Sustainability.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics (grade 4, new grading system in England)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|