BSc

Cyllid Busnes

Mae byd busnes yn gofyn llawer, mae’n heriol ac yn ddibynnol iawn ar gyllid; dyma amgylchedd amrywiol â chanddo wahanol ffactorau sy'n dylanwadu ar berfformiad a rhagolygon busnes.  

Bydd ein cwrs Cyllid Busnes yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn rhoi i chi fframwaith cydlynol cadarn i ddeall strategaeth ariannol, sut y cynhelir gwasanaethau ariannol a rheoleiddio arian a chyllid.  

Bydd agweddau cyllid y cwrs yn eich dysgu i ddefnyddio elfennau damcaniaethol ac ymarferol sylfaenol cyfrifeg sy’n galluogi sefydliadau i wneud penderfyniadau ariannol gwybodus. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig. 

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • The Chartered Insurance Institute (CII)

Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig, wedi'r flwyddyn honno mae'r cwrs yr un fath a'r cwrs tair blynedd safonol, BSc Cyllid Busnes (N130). 

Byddwch hefyd yn archwilio’r meysydd canlynol ar y cwrs hwn: cyllid rheoli, trethi, hanfodion buddsoddi, rheoli portffolios a chyllid byd-eang. 

Byddwch yn elwa o: 

  • gael eithriadau i arholiadau cyfrifeg proffesiynol y DU 
  • gwella eich cyfleoedd gyrfa drwy ein partneriaethau â busnes, diwydiant a masnach.  
  • cael eich dysgu gan unigolion sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil, gan sicrhau eich bod yn cael eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes  
  • gweithio gyda Refinitiv Workspace sy'n darparu data ariannol cwmnïau a dangosyddion economaidd yn ogystal â newyddion a dadansoddeg i roi profiad dysgu cyfoethocach a mwy rhyngweithiol i chi  
  • clywed safbwyntiau go iawn trwy wrando ar ddarlithoedd gan weithwyr proffesiynol gwadd o’r diwydiant  
  • ymuno â'n Cymdeithas Fuddsoddi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth fasnachu rhwng prifysgolion Cymru ac Iwerddon, a enillwyd gan ein tîm yn Aberystwyth yn y blynyddoedd diwethaf.  
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Technology and Business Success AB31820 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Mae cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion sydd â gradd mewn Cyllid Busnes yn cynnwys gweithio mewn meysydd megis bancio buddsoddi a manwerthu, ymgynghori ar reoli a chynllunio trethi.  

Mae llawer o’n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddiant cyllid i raddedigion ac yn dod o hyd i waith yn fuan iawn gyda busnesau a sefydliadau ariannol y DU neu’n rhyngwladol.  

Mae ein graddedigion wedi cael gyrfaoedd mewn: 

  • Strategaeth Ariannol. 
  • Proffesiwn actiwaraidd  
  • Bancio corfforaethol 
  • ⁠Treth 
  • Dadansoddi buddsoddi 
  • Masnachu ariannol 
  • Bancio manwerthu. 

Pa sgiliau fydd y radd hon yn ei rhoi i fi? 

Bydd astudio gradd mewn Cyllid Busnes yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi:  

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadol  
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol  
  • Dealltwriaeth ddofn o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • Datrys problemau’n effeithiol 
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol 
  • Gwneud penderfyniadau 
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu 
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael i mi wrth i mi astudio?  

Dysgwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn ei gynnig. Gallwch wella eich rhagolygon am swydd trwy ein Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?  

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn eich blwyddyn sylfaen, cewch cyflwyniad i:  

  • elfennau craidd Cyllid Busnes. 

Yn eich ail blwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn dysgu am: 

  • Gyfrifeg ariannol  
  • Cyfrifon Rheoli  
  • Rheolaeth Ariannol 
  • Sgiliau a dulliau meintiol  
  • Rheolaeth 
  • Amgylchedd Busnes.  

Yn eich trydedd a pedwaredd blwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried ac yn astudio: 

  • Buddsoddiadau ac offerynnau ariannol 
  • Cwmnïau 
  • Marchnadoedd 
  • Prisio 
  • Cyllid corfforaethol 
  • Treth 
  • Systemau ariannol Ewropeaidd a Rhyngwladol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.  

Asesu

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy: 

  • Arholiadau 
  • Traethodau wedi'u hasesu 
  • Prosiectau 
  • Cyflwyniadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics (grade 4, new grading system in England)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|