BSc

Technoleg Gwybodaeth Busnes

Technoleg Gwybodaeth Busnes Cod G500 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Technoleg Gwybodaeth Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio sut mae gweithwyr proffesiynol yn defnyddio technoleg i ateb problemau busnes.

Gyda mynediad at y cydrannau allweddol sy'n cyfrannu at effeithlonrwydd busnes, gan gynnwys Dadansoddi Systemau, Rhaglenni Cronfeydd Data, Amgylchedd Busnes, Systemau E-fasnach / E-fusnes, Rhaglennu'r We a Theclynnau'r We, byddwch yn dysgu'n gyflym sut mae dadansoddi gofynion busnes a'u trosi'n systemau busnes effeithiol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y gallu a'r sgiliau craidd hynod drosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn y ddisgyblaeth hon yn chwilio amdanynt.

Trosolwg o'r Cwrs

Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fundamentals of Web Development CS11010 10
Information security CS11110 10
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Sgiliau Astudio ar gyfer Cyfrifiadureg CC18120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Problems and Solutions CS10720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Graphics CS24320 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB25720 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Programming for the Web CS25320 20
Software Engineering for the Web CS22220 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Web Development CS35510 10
E-Commerce: Implementation, Management and Security CS37420 20
Marketing Management * MM30120 20
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Web-Based Major Project CS39930 30

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Fel rhan o'ch gradd, bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cwrs preswyl, lle bydd rhaid i chi a myfyrwyr eraill weithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol

Anogir myfyrwyr sy'n dymuno cyflawni profiad gwaith a all gynyddu eich rhagolygon gyrfa i ystyried ein chwaer-gwrs (G501). Mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â G500, ond bydd gennych flwyddyn ychwanegol i gael rhywfaint o brofiad gwaith gwerthfawr yn y diwydiant perthnasol. Cliciwch yma i ddysgu mwy.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion
  • rhaglennu
  • amgylchedd busnes

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • rhaglennu ar gyfer y We
  • modelu data
  • dylunio gwe a phrofiad y defnyddiwr
  • graffeg gymhwysol
  • peirianneg meddalwedd

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • e-fasnach
  • prosiect Grŵp Technoleg Gwybodaeth Busnes
  • materion proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura
  • prif brosiect ar y we

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol/grŵp.
  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, i ddatblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac i ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Roedd y radd Technoleg Gwybodaeth Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn apelio ata i'n syth pan ddes i ar ei thraws hi yn y prosbectws. Gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn cyfrifiaduron a sut maent yn fanteisiol i fusnesau, ro'n i'n gwybod y byddai'r radd hon yn ddelfrydol i fi, gan nad yw'r radd yn cynnwys rhaglennu dwys o gymharu â gradd Cyfrifiadureg. Mae'r staff a'r cymrodyr ddysgu yn yr adran mor barod i helpu, ac maen nhw bob amser yn barod i roi cefnogaeth ychwanegol i chi y tu allan i'r gwersi os byddwch chi'n cael anhawster. Ers i fi ymuno â'r Adran Gyfrifiadureg, dw i heb edrych yn ôl o gwbl - mae e wedi bod yn brofiad ardderchog. Samuel Mills

Mae'n berffaith ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn cyfrifiaduron, fel fi, ond sydd heb ddealltwriaeth arbennig o gryf o raglennu. Mae 'na ystod eang o fodiwlau ar draws sawl adran sy'n ddiddorol hefyd. Kyle Jordon Holloway

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|