BSc

Technoleg Gwybodaeth Busnes

Technoleg Gwybodaeth Busnes Cod G50F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, mae’r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad at y cyllun gradd hynod boblogaidd hwn. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail gadarn ym maes Technoleg Gwybodaeth Busnes i’ch galluogi i fynd ymlaen i fwynhau’r radd israddedig lawn yn eich ail flwyddyn.

Trosolwg o'r Cwrs

Wrth weld yr elfennau allweddol ar gyfer sicrhau busnes effeithlon, gan gynnwys dadansoddi systemau, cymwysiadau cronfeydd data, amgylchedd busnes, systemau e-fasnach ac e-fusnes, rhaglennu a chyfarpar y we, byddwch yn dysgu’n gyflym sut i ddadansoddi anghenion busnesau a’u trosi’n systemau busnes effeithiol.

Ar ôl cwblhau’r radd Technoleg Gwybodaeth Busnes yn llwyddiannus byddwch wedi meithrin y sgiliau a’r galluoedd craidd hanfodol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr yn y maes hwn.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Technoleg Gwybodaeth Busnes (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • defnyddio labordai sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ac ynddynt ystod lawn o adnoddau cyfrifiadureg gan gynnwys Windows, Linux a MacOS.
  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd
  • dilyn modiwlau ar brosesau busnes, llunio gwefannau, HCI, ac e-fasnach.


Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Academic Skills Foundation 1 IC07620 20
Academic Skills Foundation 2 IC07720 20
Foundation Mini Projects CS02420 20
Foundation Programming CS02320 20
Information Technology for University Students CS01120 20
Spreadsheets for University Students CS01010 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication and Technology PH19510 10
License to Use Mathematics CS00710 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Hanfodion Datblygu'r We CC11010 10
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Sgiliau Astudio ar gyfer Cyfrifiadureg CC18120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Problems and Solutions CS10720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Graphics CS24320 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB25720 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Programming for the Web CS25320 20
Software Engineering for the Web CS22220 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Web Development CS35510 10
E-Commerce: Implementation, Management and Security CS37420 20
Marketing Management * MM30120 20
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Web-Based Major Project CS39930 30

Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion ddealltwriaeth dda o ofynion y byd masnachol o ran systemau cyfrifiadurol a ffordd broffesiynol o adeiladu’r systemau hynny o gydrannau safonol cronfeydd data, y we a meddalwedd swyddfa. Bydd y cynllun gradd hwn yn rhoi mantais ichi wrth wneud cais am swyddi sy’n gofyn am adeiladu systemau masnachol gan ddefnyddio gwahanol offer a blociau adeiladu, defnyddio dulliau dadansoddol i gyflwyno TG er mwyn datrys problemau busnes, darparu atebion masnachol sy’n defnyddio cronfeydd data a’r we, a darparu cymorth i ddefnyddwyr TG.

Dysgu ac Addysgu

yma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Communication and Technology
  • Foundation Mini Projects
  • Foundation Programming
  • Information Technology for University Students
  • Spreadsheets for University Students
  • The Mathematics Driving Licence.

Yr ail flwyddyn:

  • Cyflwyniad i Raglennu/Introduction to Programming
  • Datblygiad Proffesiynol a Phersonol/Professional and Personal Development
  • Diogelwch Data/Information Security
  • Hanfodion Datblygu Gwe/Fundamentals of Web Development.
  • Introduction to Computer Infrastructure
  • Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol/Programming Using an Object-Oriented Language.

Y drydedd flwyddyn

  • Business Systems Analysis
  • Management Information Systems
  • Modelu Data Parhaus/Modelling Persistent Data
  • Programming for the Web
  • Applied Graphics
  • Software Engineering for the Web
  • Web Design and the User Experience.

Y flwyddyn olaf:

  • Management of Organisations
  • Web-based Major Project
  • Applied Web Development
  • E-Commerce: Implementation,
  • Management and Security
  • Professional Issues in the Computing Industry.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|