Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Technoleg Gwybodaeth Busnes (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn archwilio sut mae gweithwyr proffesiynol yn defnyddio technoleg i ateb problemau busnes.
Gyda mynediad at y cydrannau allweddol sy'n cyfrannu at effeithlonrwydd busnes, gan gynnwys Dadansoddi Systemau, Amgylchedd Busnes, Rhaglenni Cronfeydd Data, Systemau E-fasnach / E-fusnes, Rhaglennu'r We a Theclynnau'r We, byddwch yn dysgu'n gyflym sut mae dadansoddi gofynion busnes a'u trosi'n systemau busnes effeithiol.
Cynyddwch eich rhagolygon gyrfa ymhellach gyda chyfle i gyflawni Blwyddyn mewn Diwydiant. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y gallu a'r sgiliau craidd hynod drosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn y ddisgyblaeth hon yn chwilio amdanynt.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% o’r myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Technoleg Gwybodaeth Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
Mae ein hymchwil wedi cyrraedd safle 11 yng ngwledydd Prydain, a'r 1af yng Nghymru (Addysg Uwch y Times).
Mynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
Ein Staff
Mae gan bron bob un o ddarlithwyr a chymrodyr dysgu’r Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd a chymrawd dysgu newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:
cyfathrebu a rhwydweithio
datblygu'r we
rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
dadansoddi a datblygu systemau
gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
addysg
Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?
Dysgu sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.
Fel rhan o'ch gradd, bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cwrs preswyl, lle bydd rhaid i chi a myfyrwyr eraill weithio mewn timau i ddatrys problemau.
Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:
sgiliau cyfathrebu
sgiliau dadansoddol
rheoli amser
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau trefnu
sgiliau gweithredu
sgiliau ymchwil
sgiliau technegol
Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:
sgiliau CV
ymarfer ar gyfer cyfweliad
rhwydweithio gyda chyflogwyr
presenoldeb ar-lein
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:
datblygu'r we
problemau ac atebion
rhaglennu
amgylchedd busnes
Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:
rhaglennu ar gyfer y we
modelu data
dylunio gwe a phrofiad y defnyddiwr
graffeg gymhwysol
peirianneg meddalwedd
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn, bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle. Byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.
Yn eich pedwaredd flwyddyn, cewch ymgymryd â'r canlynol:
e-fasnach
prosiect Grŵp Technoleg Gwybodaeth Busnes
materion proffesiynol yn y diwydiant cyfrifiadura
prif brosiect ar y we
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol/grŵp.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Roedd y radd Technoleg Gwybodaeth Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn apelio ata i'n syth pan ddes i ar ei thraws hi yn y prosbectws. Gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn cyfrifiaduron a sut maent yn fanteisiol i fusnesau, ro'n i'n gwybod y byddai'r radd hon yn ddelfrydol i fi, gan nad yw'r radd yn cynnwys rhaglennu dwys o gymharu â gradd Cyfrifiadureg. Mae'r staff a'r cymrodyr dysgu yn yr adran mor barod i helpu, ac maen nhw bob amser yn barod i roi cefnogaeth ychwanegol i chi y tu allan i'r gwersi os byddwch chi'n cael anhawster. Ers i fi ymuno â'r Adran Gyfrifiadureg, dw i heb edrych yn ôl o gwbl - mae e wedi bod yn brofiad ardderchog. Samuel Mills
Mae'n berffaith ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn cyfrifiaduron, fel fi, ond sydd heb ddealltwriaeth arbennig o gryf o raglennu. Mae 'na ystod eang o fodiwlau ar draws sawl adran sy'n ddiddorol hefyd. Kyle Jordon Holloway