BSc

Busnes a Rheolaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae byd menter yn addasu o hyd. Gall effaith  newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, 

newidiadau o ran rheoleiddio a’r amgylchedd cyfreithiol, penderfyniadau marchnata a datblygu strategaethau busnes olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu i gwmni. Mae'r radd BSc Busnes a Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn berffaith er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y byd busnes.  Bydd ein hacademyddion arbenigol yn eich tywys drwy feysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifo, strategaeth, rheoli adnoddau dynol ac entrepreneuriaeth – yn ogystal ag ystod eang o fodiwlau arbenigol a blaengar eraill. Mae'r radd wedi'i chynllunio ar gyfer myfyriwr sy'n dymuno rhagori a llwyddo i lefel uchaf arferion rheoli busnes byd-eang.


Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, byddwch yn dysgu sut i ymateb i’r digwyddiadau hyn drwy ddatblygu eich gwybodaeth am elfennau hanfodol y byd busnes, gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, strategaeth a gweithrediadau busnes, marchnata, a dadansoddi data busnes. Bydd ein tîm o academyddion arbenigol yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth yn y maes busnes a masnach yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu maes rheoli ac effaith gyfun y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau i ddadansoddi materion rheoli yng nghyswllt blaenoriaethau’r cwmni, ffactorau allanol a’r hyn a ystyrir yn “arfer da” ar hyn o bryd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Busnes a Rheolaeth yn Aberystwyth:

  • gweithio gyda busnesau yn y gymuned leol ac yn ehangach i ddatblygu eich sgiliau fel ymarferwr a chynorthwyo eich datblygiad academaidd
  • dysgu gan ddarlithwyr sydd ag amrywiaeth eang o brofiad busnes a rheolaeth a diddordebau ymchwil sy’n cael eu cyfuno â’r addysgu.
  • Byddwch yn cael eich addysgu yn awyrgylch arloesol a dynamig Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Ar ôl gorffen y radd hon, byddwch yn meddu ar y canlynol:

  • dealltwriaeth eang o reoli ymarferol
  • dealltwriaeth fanwl o fasnach yn y sector cyhoeddus a phreifat
  • dealltwriaeth gadarn o gymhlethdodau heriau rheoli, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn eu hwynebu.
Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Financial Strategy AB31720 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Rheolaeth a Busnes?

Bydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth yn eich galluogi i ddethol o amrywiaeth o opsiynau gyrfa drwy’r byd busnes, diwydiant a masnach, neu i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion 

yn dod o hyd i gyflogaeth lwyddiannus fel rheolwyr iau mewn sefydliadau rhyngwladol neu gwmnïau amlwladol fel Goldman Sachs, Pricewaterhouse Coopers, Llywodraeth Cymru a Marks & Spencer.

Mae ein graddedigion yn gweithio ac yn llwyddiannus mewn nifer o sectorau:

  • Cyfrifo Siartredig
  • Bancio Buddsoddi
  • Yswirio
  • Gwarantu
  • Rheoli Risg
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Masnachol
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad sefydliadol
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd am swyddi y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio: 

  • egwyddorion sylfaenol rheolaeth
  • dynameg yr amgylchedd busnes modern
  • defnydd o wybodaeth ariannol a chyfrifo mewn penderfyniadau rheoli ar lefelau gweithredol a strategol
  • egwyddorion marchnata.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio: 

  • theori ac ymddygiad sefydliadol
  • damcaniaethau a thechnegau rheoli gweithrediadau
  • strwythurau'r farchnad a strategaethau prisio
  • y sgiliau, y teclynnau dadansoddi a'r technegau i nodi a mynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ym meysydd marchnata a rheoli busnes. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • y strategaeth fusnes a sut mae'n gweithredu'n fewnol ac yn allanol i'r amgylchedd busnes;
  • rheoli adnoddau dynol
  • dealltwriaeth o'r meddylfryd rheoli presennol, o safbwynt ymarferol a damcaniaethol
  • prosiect ymchwil annibynnol gorfodol a fydd yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn agwedd benodol ar farchnata a rheoli busnes.

Mae modiwlau opsiynol ar gael er mwyn eich galluogi i gyfeirio'ch dysgu a'ch arbenigedd eich hun.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Busnes a Rheolaeth yn rhoi cipolwg academaidd ar ymddygiad busnesau yn eu hamgylcheddau allanol a mewnol, gan alluogi unigolion i amgyffred cyd-destun ehangach gweithrediadau yn llawn mewn cyd-destun byd-eang, mewn modd addysgiadol a diddorol. Mae'n amrywiol gan ei fod yn archwilio ystod o bynciau busnes. Caiff myfyrwyr brofi economeg, cyfrifo a marchnata, gan ddarparu sail gref mewn ystod eang o feysydd busnes y gellir ehangu arnynt yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Roedd y modiwlau yn paratoi unigolion i ddeall amrywiaeth o weithrediadau busnes. Andrea Jane Phillips

Mae'r cwrs wedi bod yn help mawr i fi, ac wedi rhoi hyder i fi ym maes marchnata a busnes, yn enwedig pan oedden ni'n gweithio fel ymgynghorwyr busnes ar gyfer Aber Town Trader wrth wneud Astudiaethau Achos Marchnata. Mae'n rhoi cipolwg i ni o waith yn y dyfodol, ac mae'n brofiad gwaith gwych i fyfyrwyr. Roedd Cyfathrebu Marchnata y tymor diwethaf hefyd yn bwnc diddorol iawn, gan i ni ddysgu a dadansoddi gwahanol ddulliau cyfathrebu mae cwmnïau'n eu defnyddio i farchnata er mwyn cyrraedd eu cynulleidfa darged a chwsmeriaid posib. Mae'r cyfleoedd hyn wedi bod yn wych, ac yn dda i'w rhoi ar eich CV fel profiadau! Dwynwen Medi Evans

Mae astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy ymwybyddiaeth, a deall y byd rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddo yn well. Gyda dealltwriaeth gyfyngedig o Fusnes a Rheolaeth cyn astudio, rydw i wedi cael budd mawr o'r cwrs yma, a'r gallu i ddewis a dethol pa lwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn. Drwy ystod o sesiynau dysgu rhyngweithiol ac yn y dosbarth, blodeuodd fy angerdd am y pwnc. Mae'r radd yma wedi sbarduno fy awydd i barhau ag addysg i'r lefel nesaf, er mwyn sicrhau dealltwriaeth fwy trylwyr o'r amgylchedd busnes. Peter Hamilton-Gray

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|