BSc

Busnes a Rheolaeth / Ieithoedd Modern

Busnes a Rheolaeth / Ieithoedd Modern Cod NR90 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd BSc Busnes a Rheolaeth / Ieithoedd Modern yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a’r Adran Ieithoedd Modern yn rhoi i chi gyfle i ymdrin â byd busnes o'r cychwyn cyntaf. Mae’r radd hon wedi'i llunio ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ragori a chyrraedd y lefel uchaf o ran ymarfer rheoli busnes byd-eang. 

Bydd ein hacademyddion arbenigol yn eich tywys drwy feysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth, rheoli adnoddau dynol a mentergarwch - yn ogystal ag ystod o fodiwlau arloesol ac arbenigol eraill. 

Byddwch yn datblygu ac yn gwella’ch sylfaen o sgiliau iaith gyda'r Adran Ieithoedd Modern, lle y datblygwch, i lefel uwch, eich gwerthfawrogiad, eich gwybodaeth a’ch angerdd dros ieithoedd a diwylliant.  

Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA).

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Busnes a Rheolaeth / Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn ennill achrediad gan Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth am fyd menter
  • Byddwch yn deall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd.

Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y canlynol:

  • Newidiadau mewn arferion cyfrifeg
  • Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol
  • Marchnata strategol a marchnata digidol
  • Strategaethau busnes
  • Ieithoedd a diwylliant.

Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd hwn, bydd gennych chi:

  • Ddealltwriaeth eang am reolaeth ymarferol
  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg a'ch iaith ddewisol (cewch ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg)
  • Gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat
  • Gafael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolwyr, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn ymdrin â hwy.

Datblygiad iaith

  • Gallwch astudio eich dewis o ieithoedd o lefel ddechreuwyr neu uwch. Bydd dechreuwyr yn astudio cwrs dwys yn y flwyddyn gyntaf.
  • Byddwch yn derbyn pedair awr o ddosbarthiadau iaith a gramadeg bob wythnos. Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn un gymharol fach a chlos, sy'n golygu y byddwch yn elwa o’n dull unigryw o ddatblygu iaith. Mae pob un o'r tiwtoriaid iaith yn siaradwyr brodorol neu'n arbenigwr yn yr iaith darged berthnasol.
  • Bydd eich blwyddyn dramor yn cael ei threulio mewn gwlad sy'n gysylltiedig â'ch iaith ddewisol. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner, ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl neu ddi-dâl, neu gyfuniad o'r ddau.
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd Busnes a Rheolaeth /Ieithoedd Modern?

Mae ein graddedigion wedi ymuno’n llwyddiannus â nifer o sectorau:

  • Cyfrifeg Siartredig
  • Bancio Buddsoddi
  • Yswiriant
  • Gwarantu
  • Rheoli Risg
  • Rheoli Manwerthu
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

Bydd astudio ein cwrs gradd mewn Busnes a Rheolaeth / Ieithoedd Modern yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi: 

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfa amrywiol mewn iaith fodern a’r Saesneg;
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Datrys problemau’n effeithiol
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • Gwneud penderfyniadau
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ym mhob blwyddyn bydd gennych bedair awr o waith iaith yr wythnos – dewiswch o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • Egwyddorion sylfaenol rheoli
  • Dynameg yr amgylchedd busnes modern
  • Defnyddio gwybodaeth ariannol a chyfrifeg mewn penderfyniadau rheoli ar y lefelau gweithredol a strategol; 
  • Egwyddorion marchnata a'r berthynas rhwng rheoli a threfniadaeth
  • Modiwlau dewisol ar iaith, diwylliant, hunaniaeth a ffilm.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Damcaniaethau a thechnegau rheoli gweithrediadau
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, gan gynnwys rheoli marchnata, mentergarwch, llenyddiaeth, iaith, sinema a diwylliant.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch iaith ddewisol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Rôl strategaeth ariannol yn y penderfyniadau buddsoddi, ariannu a chlustnodi adnoddau o fewn sefydliad
  • Arweinyddiaeth strategol
  • Eich dewis o fodiwlau dewisol, gan gynnwys busnes digidol, logisteg fyd-eang, llenyddiaeth, iaith, sinema a diwylliant.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau iaith, seminarau a thiwtorialau.

Asesu

Gall dulliau asesu gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, prosiectau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|