BSc

Busnes a Rheolaeth / Sbaeneg

Busnes a Rheolaeth / Sbaeneg Cod NR14 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Bydd BSc Busnes a Rheolaeth / Sbaeneg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a’r Adran Ieithoedd Modern yn rhoi i chi gyfle i ymdrin â byd busnes o'r cychwyn cyntaf. Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA). Bydd ein hacademyddion arbenigol yn eich tywys drwy feysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth, rheoli adnoddau dynol a mentergarwch - yn ogystal ag ystod o fodiwlau arloesol ac arbenigol eraill. Byddwch yn datblygu ac yn gwella’ch sylfaen o sgiliau Sbaeneg gyda'r Adran Ieithoedd Modern, lle y datblygwch, i lefel uwch, eich gwerthfawrogiad o’r Sbaeneg a’i diwylliant, eich gwybodaeth amdani, a’ch angerdd drosti. Mae’r radd wedi'i llunio ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ragori a chyrraedd y lefel uchaf o ran ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Busnes a Rheolaeth / Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn ennill achrediad gan Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli;
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth am fyd menter;
  • Byddwch yn deall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd.

Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y canlynol:

  • Newidiadau mewn arferion cyfrifeg;
  • Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol;
  • Marchnata strategol a marchnata digidol;
  • Strategaethau busnes;
  • Iaith a Diwylliant Sbaen.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gennych chi:

  • Ddealltwriaeth eang am reolaeth ymarferol;
  • Y gallu i gyfathrebu yn y Sbaeneg yn ogystal â’r Saesneg;
  • Gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
  • Gafael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolwyr, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn ymdrin â hwy
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd Busnes a Rheolaeth /Sbaeneg?

Mae ein graddedigion wedi ymuno’n llwyddiannus â nifer o sectorau:

  • Cyfrifeg Siartredig;
  • Bancio Buddsoddi;
  • Yswiriant;
  • Gwarantu;
  • Rheoli Risg;
  • Rheoli Manwerthu;
  • Rheoli Marchnata;
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

Bydd astudio ein cwrs gradd mewn Busnes a Rheolaeth Busnes / Sbaeneg yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi: 

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau;
  • Gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfa amrywiol yn y Sbaeneg a’r Saesneg;
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • Datrys problemau’n effeithiol; 
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol; 
  • Gwneud penderfyniadau; 
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm;
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu; 
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun. 

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd am gyflogaeth y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a reolir gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod pedair blynedd y cynllun gradd hwn, bydd eich sgiliau iaith Sbaeneg yn cael eu cyfoethogi’n sylweddol gan ein rhaglen iaith drylwyr, a fydd yn cwmpasu'r meysydd canlynol: 

Siarad;

Gwrando;

Ysgrifennu;

Cyfieithu.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe astudiwch:

  • Egwyddorion sylfaenol rheoli; 
  • Dynameg yr amgylchedd busnes modern; 
  • Defnyddio gwybodaeth ariannol a chyfrifeg mewn penderfyniadau rheoli ar y lefelau gweithredol a strategol; 
  • Egwyddorion marchnata a'r berthynas rhwng rheoli a threfniadaeth;
  • Ym mhob un o’r pedair blynedd, cewch bedair awr o waith iaith bob wythnos.
  • Y gwareiddiad Sbaenaidd;
  • Dewis o fodiwlau ar ffilm Ewropeaidd, iaith a hunaniaeth.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • Ymddygiad a damcaniaeth sefydliadol;
  • Damcaniaethau a thechnegau rheoli gweithrediadau; 
  • Strwythurau’r farchnad a strategaethau prisio;
  • Y sgiliau, yr offer dadansoddol a'r technegau i adnabod problemau a chyfleoedd ym maes rheoli a marchnata busnes, ac i ymdrin â nhw;
  • Ciwba yn y chwyldro; 
  • Iaith Busnes a Materion Cyfoes;
  • Gweld Sbaen trwy’r sinema 
  • Sinema’r America Sbaeneg 
  • Yr Avant-Garde Sbaeneg. 

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn cymryd rhan mewn blwyddyn dramor lle gallwch astudio, naill ai mewn un o'n Prifysgolion partner yn Sbaen, neu’n gweithio fel Cynorthwyydd Iaith Saesneg yn Sbaen neu wlad arall Sbaeneg ei hiaith drwy'r Cyngor Prydeinig.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio:

  • Y strategaeth fusnes a sut mae’n gweithredu y tu mewn a’r tu allan i'r amgylchedd busnes;
  • Rheoli Adnoddau Dynol;
  • Dealltwriaeth am y syniadaeth bresennol am reoli, o safbwyntiau ymarferol a damcaniaethol fel ei gilydd;
  • Prosiect ymchwil annibynnol gorfodol a fydd yn rhoi cyfle i chi i arbenigo ar agwedd benodol ar fusnes, rheolaeth a marchnata;
  • Actualidades. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora mewn grwpiau bach. Ar rai modiwlau bydd gofyn i chi roi cyflwyniadau, gweithio'n effeithiol yn rhan o grŵp a gwneud unrhyw draethodau sy'n ofynnol.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein holl fodiwlau yn cael eu rhoi ar-lein i chi eu hastudio ymhellach yng nghysur eich ystafell. Mae gennym hefyd gyfoeth o destunau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgell a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy: 

  • ⁠Arholiadau;
  • Traethodau wedi'u hasesu;
  • Prosiectau;
  • Cyflwyniadau;
  • Traethawd Hir (rhai modiwlau).

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|