BA

Astudiaethau Plentyndod

BA Astudiaethau Plentyndod Cod X320 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn rhagori mewn proffesiynau sy’n ymwneud â phlant. Yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn archwilio ystod eang o feysydd a ffactorau sy’n dylanwadu ar blentyn ac sy’n ganolog i ddatblygiad plentyn yn nes ymlaen.

Bydd y cwrs yn tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau er mwyn ehangu eich gwybodaeth a hybu meddwl beirniadol. Byddwch yn archwilio rhai o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad plant, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o gefndir gwleidyddol a deddfwriaethol plentyndod a’i oblygiadau i blant a’u teuluoedd.

Yn rhan o’r cwrs, bydd cyfle ichi fynd i leoliadau, i arsylwi ar y gwaith sy’n digwydd mewn lleoliad addysgol/plentyndod. Yn y gorffennol, mae'r rhain wedi cynnwys lleoliadau iechyd, meithrinfeydd ac ysgolion.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol ers dros 100 mlynedd. Ni oedd y sefydliad cyntaf yn y DU i gynnig gradd anrhydedd mewn Addysg ac mae ein gradd Astudiaethau Plentyndod yn rhan hanfodol o'n darpariaeth.
  • Bydd ein rhaglen Astudiaethau Plentyndod yn eich galluogi i ystyried rhai o'r ffactorau cymdeithasegol a seicolegol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth o'r cefndir gwleidyddol a deddfwriaethol i blentyndod a'i oblygiadau i blant a'u teuluoedd.
  • Ar lefel fwy personol, byddwch yn datblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol, yn ogystal â gwella eich gallu i weithio gydag eraill mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol, er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Key Skills for University ED13620 20
Language Development ED14320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Health and Wellbeing in the Early Years ED14620 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Play and Learning:Theory and Practice ED13720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Literacy in Young Children ED20220 20
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20
Research Methods ED20320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol AD24320 20
Discourses Language and Education ED22420 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Gweithio Gyda Phlant AD20620 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Working with Children ED20620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Emotional and Social Development ED34820 20
Major dissertation ED33640 40
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Asesu ac Addysg AD30120 20
Asesu ac Addysg AD30120 20
Children's Rights ED30620 20
Hawliau Plant AD30620 20
Special Educational Needs ED30420 20

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Er mwyn gallu astudio rhai modiwlau ar gyfer y radd hon, mae’n bosibl y bydd angen gwiriad uwch gan y DBS (Datgelu a Gwahardd) drwy’r Ysgol Addysg am gost o £40. Mewn rhai amgylchiadau, gall y gost fod yn uwch, yn enwedig os ydych wedi byw y tu allan i'r DU am gyfnod.

Gyrfaoedd

Mae gan y radd hon hanes rhagorol o ran cyflogadwyedd. Mae llawer o'n graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol: 

  • addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • llesiant plant
  • therapi chwarae
  • y diwydiant hamdden
  • cyfraith plant
  • ymchwil plentyndod.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Astudiaethau Plentyndod yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).


Dysgu ac Addysgu

Sut bydda i'n dysgu?

Yn yr Ysgol Addysg, rydyn ni'n darparu ystod o gyfleoedd dysgu:

  • Mae darlithoedd mewn grwpiau mwy yn eich galluogi i gael dealltwriaeth amlinellol o'r syniadau a'r cysyniadau sy'n rhan o bob modiwl. Byddwch yn cael eich annog i drafod pwyntiau allweddol gyda'ch cydfyfyrwyr, i ateb cwestiynau, ac i ddatblygu eich barn a chyfnerthu eich dysgu. Bydd recordiadau sain o'ch holl ddarlithoedd ar gael, cyhyd â'ch bod wedi cofrestru ar y cwrs yn Aberystwyth.
  • Mae seminarau mewn grwpiau bach yn cynnwys gwaith mwy manwl ar elfennau penodol o fodiwlau. Gallai'r rhain gynnwys cymwysiadau mwy ymarferol o syniadau o'r darlithoedd, neu ddadansoddiad manwl o waith ymchwil neu waith darllen arall.
  • Mae gweithdai'n ymarferol. Caiff tasgau eu gosod sy'n cynnwys gwaith grŵp a gwaith unigol ar bynciau fel sgiliau astudio. Yn achlysurol, mae'r rhain hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd. Mae arloesiadau diweddar yn cynnwys defnydd o glustffonau realiti rhithwir er mwyn dod â'r dysgu'n fyw.

Beth fydda i'n ei astudio?

Ym mhob blwyddyn, bydd y modiwlau craidd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn agweddau hanfodol ar Astudiaethau Plentyndod, er enghraifft:

  • Ym Mlwyddyn 1, mae'r modiwlau craidd yn trafod pynciau fel sut mae plant ifanc yn dysgu, a datblygiad deallusrwydd, personoliaeth a chanfyddiad mewn plant. Gallai modiwlau opsiynol gynnwys pynciau fel pwysigrwydd chwarae, datblygiad hanesyddol darpariaeth plentyndod yng Nghymru a Lloegr, a sgiliau allweddol ar gyfer y Brifysgol.
  • Ym Mlwyddyn 2, mae'r modiwlau craidd yn trafod pynciau fel damcaniaethau meddwl a dysgu, a datblygiad llythrennedd mewn plant. Mae modiwlau opsiynol yn cynnwys modiwl lleoliad gwaith, astudio addysg ddwyieithog, ac amrywiaeth ddiwylliannol mewn addysg.
  • Ym Mlwyddyn 3, byddwch yn teilwra'ch rhaglen i weddu i'ch diddordebau chi drwy eich traethawd hir. Gallech hefyd archwilio Anghenion Addysgol Arbennig neu hawliau plant, neu hyd yn oed ddewis cyflwyno pwnc gwyddonol i'r cyhoedd.

Sut bydd fy ngwaith yn cael ei asesu?

Bydd amrywiaeth o dechnegau asesu yn eich galluogi i wneud y mwyaf o'ch cryfderau.

Asesir rhai modiwlau drwy arholiadau a thraethodau, ond gallech hefyd gwblhau prosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau. Nid yw ein pwysoliad arholiad yn fwy na 50% mewn unrhyw fodiwl. Yn ogystal, yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael tasg o greu gêm ddysgu ar gyfer plant neu fyfyrwyr eraill. Bydd yn rhaid i chi greu gêm a'i chyflwyno gyda rhesymeg academaidd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Mae hyn gymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd! Caroline Korell

Mae Astudiaethau Plentyndod yn gwrs anhygoel. Gan fod y cynnwys mor eang, mae wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i fi archwilio meysydd newydd a chyffrous! Yr uchafbwynt i fi oedd cael cyfle i gyflawni'r lleoliadau gwaith mewn gwahanol lefydd i gael profiad ymarferol, sy'n hanfodol ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Dw i wrth fy modd gyda fy ngradd! Chloe Tinsley-Hall

Mae Astudiaethau Plentyndod yn bwnc dymunol a diddorol. Mae'n rhoi cyfle i'r holl fyfyrwyr fynegi a datblygu eu hunain fel unigolion. Rydyn ni bob amser yn cael ein hannog i ymestyn ein dysgu drwy astudiaeth a gweithgareddau ychwanegol yn yr adran a'r brifysgol. Mae'r cydbwysedd cywir o arholiadau/gwaith cwrs ar y cynllun yn galluogi myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial. Mae'r holl staff yn gyfeillgar ac yn gefnogol; maen nhw'n rhoi cymorth i ni pan allan nhw, boed yn academaidd neu'n gymdeithasol. Eleanor Thompson

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 112 - 96

Safon Uwch BBC-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|