Astudiaethau Plentyndod
BA Astudiaethau Plentyndod Cod X324 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
X324-
Tariff UCAS
112 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
87%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn rhagori mewn proffesiynau sy’n ymwneud â phlant. Yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn archwilio ystod eang o feysydd a ffactorau sy’n dylanwadu ar blentyn ac sy’n ganolog i ddatblygiad plentyn yn nes ymlaen.
Bydd y cwrs yn tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau er mwyn ehangu eich gwybodaeth a hybu meddwl beirniadol. Byddwch yn archwilio rhai o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad plant, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o gefndir gwleidyddol a deddfwriaethol plentyndod a’i oblygiadau i blant a’u teuluoedd.
Yn rhan o’r cwrs, bydd cyfle ichi fynd i leoliadau, i arsylwi ar y gwaith sy’n digwydd mewn lleoliad addysgol/plentyndod. Yn y gorffennol, mae'r rhain wedi cynnwys lleoliadau iechyd, meithrinfeydd ac ysgolion.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Datblygiad a Dysgu Plant | AD14520 | 20 |
Datblygiad Iaith | AD14320 | 20 |
Ymarfer Proffesiynol | AD10020 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Addysg, Cynaliadwyedd a Dinasyddiaeth Foesegol | AD10320 | 20 |
Education, Sustainability and Ethical Citizenship | ED10320 | 20 |
Health and Wellbeing in the Early Years | ED14620 | 20 |
Play and Learning:Theory and Practice | ED13720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc | AD20220 | 20 |
Dulliau Ymchwil | AD20320 | 20 |
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol | AD24320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Discourses Language and Education | ED22420 | 20 |
Seiliau Addysgol : Golwg ar Gwricwlwm ac Asesu | AD20020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Traethawd Hir | AD33640 | 40 |
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar | AD30320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Children's Rights | ED30620 | 20 |
Emotional and Social Development | ED34820 | 20 |
Hawliau Plant | AD30620 | 20 |
Special Educational Needs | ED30420 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 112 - 96
Safon Uwch BBC-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|