BSc

Cyfrifiadureg (Ategol)

Bydd y radd ategol mewn Cyfrifiadureg yn Aberystwyth yn adeiladu ar eich sgiliau presennol mewn cyfrifiadureg (fel rhaglennu, peirianneg meddalwedd a chronfeydd data) gyda modiwlau technegol uwch, prosiect meddalwedd annibynnol mawr, a materion proffesiynol i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cyfrifiadurol. 

Caiff y sgiliau a ddysgir drwy'r cwrs hwn eu dysgu ar sail ymchwil blaengar mewn amgylchedd dysgu cefnogol, ac mae galw mawr amdanynt ymhlith darpar gyflogwyr.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Hyblyg, gydag ystod eang o opsiynau, sy'n eich galluogi i ddilyn eich diddordebau.
  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Byddwch yn defnyddio labordai Linux a Mac OS X pwrpasol wedi’u cysylltu gan weinyddion canolog.
  • Cewch eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n cynnal ymchwil arloesol ac sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant.
  • Byddwch yn cael defnyddio offer robotig gan gynnwys Arduinos, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Major Project CS39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Algorithms CS31920 20
Computational Bioinformatics CS31420 20
Computer Graphics and Games CS32420 20
Mobile Development with Android CS31620 20

Gyrfaoedd

Bydd ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • Dylunio meddalwedd;
  • Cyfathrebu a rhwydweithio
  • Rhaglenni cyfrifiadurol
  • Datblygu i’r we
  • Ymgynghori a rheoli TG
  • Dadansoddi a datblygu systemau.
  • Gwerthu a marchnata cyfrifiadurol
  • addysg

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Medrau dadansoddol
  • Rheoli amser
  • Gweithio'n annibynnol 
  • Sgiliau trefnu da 
  • Sgiliau gweithredu
  • Sgiliau ymchwil
  • Sgiliau Technegol

Dysgu ac Addysgu

Yn semester 1 byddwch yn dewis o blith ystod o fodiwlau mewn Cyfrifiadureg sy'n ymdrin â phynciau ymarferol a damcaniaethol uwch, wedi'u tynnu o fodiwlau gan gynnwys Algorithmau Uwch, Gweledigaeth Gyfrifiadurol, Dysgu Peirianyddol, Roboteg, E-fasnach, gwasanaethau system a rhwydwaith, a graffeg gyfrifiadurol a gemau. 

Yn semester 2 byddwch yn cychwyn ar brosiect meddalwedd unigol mawr o dan oruchwyliaeth aelod ymroddedig o staff, ochr yn ochr ag astudio materion proffesiynol a fydd yn helpu i'ch paratoi ar gyfer y gweithle, megis gwella eich ceisiadau am swyddi, a materion cyfreithiol a moesegol yn y diwydiant cyfrifiadurol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch A level 5 qualification, such as HND or FdSc, in Computer Science or closely related subject.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
A level 5 qualification, such as HND or FdSc, in Computer Science or closely related subject.

Diploma Cenedlaethol BTEC:
A level 5 qualification, such as HND or FdSc, in Computer Science or closely related subject.

Bagloriaeth Ryngwladol:
A level 5 qualification, such as HND or FdSc, in Computer Science or closely related subject.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
A level 5 qualification, such as HND or FdSc, in Computer Science or closely related subject.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|