BSc

Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol

Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol Cod G450 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys ystod eang o bynciau o faes y diwydiant cyfrifiadura a'r byd modern.

Er mai gemau cyfrifiadurol yw agwedd fwyaf adnabyddus y maes hwn, o dan y defnydd cymharol syml mae cymhlethdod.

Ar ôl cwblhau'r radd hon, bydd gennych sylfaen gadarn mewn Sgiliau Cyfrifiadura, megis Rhaglennu, Dylunio Meddalwedd, Storio Data, Dadansoddi a Dosbarthu. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau arbenigol ym meysydd Gweld a Graffeg, ac yn rhyngweithio gyda meysydd astudio perthnasol megis Asiantau Deallusol a Chyfrifiadura Symudol.

Trosolwg o'r Cwrs

Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
Applied Graphics CS24320 20
Artificial Intelligence CS26520 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Machine Learning CS36220 20
Computer Graphics and Games CS32420 20
Computer Vision CS34110 10
Prosiect Hir CC39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol

Oes cyfleoedd i gyflawni lleoliad gwaith?

  • Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a GO Wales. Mae gennych opsiwn i gymryd blwyddyn allan rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn brofiad buddiol a gwerthfawr iawn. Drwy gwblhau'r rhaglen hon, byddwch yn amlygu'ch hun mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn.
  • Cynllun yw GO Wales sy'n gweithio'n agos gyda busnesau lleol i greu lleoliadau gwaith cyflogedig am gyfnod penodol i fyfyrwyr. Mae'n brofiad a fydd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi i wella'ch CV. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cymorth pellach i chi gyda BMG a Go Wales. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion

Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • strwythurau data ac algorithmau
  • ieithoedd rhaglennu amrywiol
  • dylunio cronfeydd data
  • prosesu delweddau
  • dysgu peirianyddol
  • gallu cyfrifiaduron i weld
  • graffeg cyfrifiadurol uwch
  • rhyngwynebau defnyddwyr
  • technolegau, technegau a phrosesau datblygu ar gyfer adeiladu meddalwedd gweithredol go iawn
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Sut byddwch chi'n cael eich addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.

Eich tiwtor personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i'n teimlo bod y cwrs yn ddiddorol iawn; mae'r cynnwys yn berthnasol, ac mae'r sgiliau rydw i wedi'u hennill wedi golygu bod canfod lleoliad blwyddyn mewn diwydiant yn llawer haws. Rwy'n teimlo fy mod i'n dysgu sgiliau sy'n ddefnyddiol ac yn berthnasol i fy nyfodol yn y diwydiant! Gideon Jones

Mae Graffeg, Gweld a Gemau Cyfrifiadurol (G450) yn gwrs sy'n darparu'r wybodaeth y mae ar fyfyrwyr Cyfrifiadureg EISIAU ei wybod. Os oes arnoch chi eisiau rhywbeth, fe wnewch chi bopeth i'w gael - a dyna sut beth yw astudio G450 - rydych chi'n dysgu gan fod arnoch chi eisiau gwneud, nid gan fod rhywun yn dweud wrthoch chi am wneud. Dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu. Filip Lisowski

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|