BSc

Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodaeth

Trosolwg o'r Cwrs

Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Mae gan ddarlithwyr yr Adran Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn gweithio mewn agweddau ar y pwnc lle mae'r pwyslais ar ymarfer proffesiynol.  Mae llawer o'r staff yn gwneud ymchwil sy'n berthnasol i ddatblygiad damcaniaethol ac ymarferol y ddisgyblaeth a'r proffesiynau cysylltiedig.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Effective Communication IL10520 20
Foundations of Information Studies IL10120 20
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
The Mathematics Driving Licence CS10410 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Programming for the Web CS25320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Software Engineering for the Web CS22220 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Cyflogadwyedd

Dysgu ac Addysgu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig

|