BSc

Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial

Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial Cod GG4R Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Archwiliwch hanfodion Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, yn caniatáu i chi ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth, sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dewis datrysiad a gweithredu.

Byddwch yn meddu ar y sgiliau priodol ar gyfer unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Fodd bynnag, bydd y pwyslais ar ddeallusrwydd artiffisial yn rhoi'r cyfle gorau i chi mewn swyddi ymreolaeth, deallusrwydd artiffisial, tasgau meddygol a/neu fiowybodeg, deallusrwydd cyfrifiannol, rhaglennu masnachol/busnes gyda rhaglenni softbot, rheolwyr deallus a mwy.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfrifiadureg gyda Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan BCS (y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n rhoi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch yn cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
  • Bydd yr adran yn rhoi mynediad i chi at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
  • Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
  • Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynediad at ein hoffer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
Artificial Intelligence CS26520 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Hir CC39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Machine Learning CS36220 20
Agile Development and Testing CS31310 10

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle y byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol.

Bydd myfyrwyr sydd am gwblhau profiad gwaith perthnasol â diddordeb yn y chwaer gwrs hwn gyda'r flwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae maes llafur y chwaer gwrs (GG47) yn union yr un fath â'r cwrs hwn (GG4R), ond bydd gennych flwyddyn ychwanegol i ymgymryd â lleoliad profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i'r radd hon. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech gael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • C a C++ ac Amgylcheddau
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect neu ddylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
  • roboteg a systemau planedig
  • deallusrwydd artiffisial
  • strwythurau data ac algorithmau.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • methodolegau Agile
  • dysgu peirianyddol
  • datblygu rhaglenni ar y rhyngrwyd
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|