Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Archwiliwch hanfodion Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial yma ym Mhrifysgol Aberystwyth - gyda Blwyddyn o Hyfforddiant Diwydiannol a Phroffesiynol Integredig i roi'r cychwyn gorau ar eich rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r radd ei hun, sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, yn caniatáu i chi ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth, sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dewis datrysiad a gweithredu.
Byddwch yn meddu ar y sgiliau priodol ar gyfer unrhyw swydd nodweddiadol yn y diwydiant meddalwedd. Fodd bynnag, bydd y pwyslais ar ddeallusrwydd artiffisial yn rhoi'r cyfle gorau i chi mewn swyddi ymreolaeth, deallusrwydd artiffisial, tasgau meddygol a/neu fiowybodeg, deallusrwydd cyfrifiannol, rhaglennu masnachol/busnes gyda rhaglenni softbot, rheolwyr deallus a mwy.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% o’r myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Trosolwg
Pam astudio Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
Bydd yr adran yn rhoi mynediad i chi at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynediad at ein hoffer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff
Mae gan bron bob un o ddarlithwyr a chymrodyr dysgu’r Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd a chymrawd dysgu newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:
dylunio meddalwedd
cyfathrebu a rhwydweithio
rhaglenni cyfrifiadurol
datblygu'r we
rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
dadansoddi a datblygu systemau
addysg.
Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?
Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle y byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.
Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:
sgiliau cyfathrebu
sgiliau dadansoddol
rheoli amser
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau trefnu
sgiliau gweithredu
sgiliau ymchwil
sgiliau technegol.
Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:
sgiliau CV
ymarfer ar gyfer cyfweliad
rhwydweithio gyda chyflogwyr
presenoldeb ar-lein.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech gael eich cyflwyno i'r canlynol:
rhaglennu
isadeiledd cyfrifiaduron
datblygu'r we
problemau ac atebion.
Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:
C a C++ ac amgylcheddau
cylch oes datblygu meddalwedd (Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect neu ddylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)
roboteg a systemau planedig
deallusrwydd artiffisial
strwythurau data ac algorithmau.
Yn eich trydedd flwyddyn, gallech fod yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn, bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle, a byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:
methodolegau agile
dysgu peirianyddol
datblygu rhaglenni ar y rhyngrwyd
prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.