BSc

Cyfrifiadureg / Mathemateg

Cyfrifiadureg / Mathemateg Cod GG14 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfrifiadureg a Mathemateg yn Aberystwyth?

  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
  • Mae'r radd wedi'i hachredu gan BCS (y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n rhoi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch yn cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
  • Mae gan fyfyrwyr fynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
  • Caiff y radd ei haddysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos â'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
  • Mae gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynediad at ein hoffer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
  • Mae'r ddwy adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Adrannau.


Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
Fundamentals of Web Development CS11010 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Hanfodion Datblygu'r We CC11010 10
Information security CS11110 10
Probability MA10310 10
Problems and Solutions CS10720 20
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data CC21120 20
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Scientific Python CS24520 20
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Byr CC39620 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Bydd gradd mewn Cyfrifiadureg a Mathemateg yn arbennig o werthfawr mewn sefyllfaoedd cyflogaeth sy'n gofyn am sgiliau rhifiadol arbenigol a meddwl rhesymegol a dadansoddol. 

Bydd yr elfen Gyfrifiadureg yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron.

Bydd yr elfen Fathemateg yn eich paratoi ar gyfer gweithio i sefydliadau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Dywydd.

Llwybrau gyrfaol

  • cyfrifo a bancio
  • dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd
  • rheoli cyllid
  • dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth
  • ymchwil a darlithio

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Cyfrifiadureg a Mathemateg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i ddelio â chysyniadau haniaethol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Ar y cwrs gradd cyd-anrhydedd mewn Cyfrifiadureg a Mathemateg, byddwch yn rhannu eich amser yn gyfartal rhwng y ddau bwnc.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio'r modiwlau craidd canlynol:

  • datblygu meddalwedd
  • rhaglennu
  • cyfathrebu a thelemateg
  • dadansoddi mathemategol
  • algebra a chalcwlws.

Mae'r modiwlau opsiynol yn cynnwys Geometreg a Thebygolrwydd

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • dylunio rhaglenni
  • strwythurau data ac algorithmau
  • cylch oes datblygu meddalwedd (Mae'r modiwl hwyn yn cynnwys prosiect grŵp. Drwy ymgymryd ag un o'r rolau sy'n bodoli yn y diwydiant, fel rheolwr prosiect, dylunydd, neu reolwr sicrhau ansawdd, byddwch yn creu cynnyrch meddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant ar bob cam.)

Byddwch hefyd yn astudio algebra llinol ac yn dewis modiwlau opsiynol o blith ystod eang sy'n cynnwys algebra haniaethol, dadansoddi cymhleth a hydrodynameg.

Yn y drydedd flwyddyn, ychydig iawn o fodiwlau craidd fydd gennych, ond gallwch ddewis o ystod eang o blith opsiynau yn y ddwy adran. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyfrifiadureg lle byddwch yn datblygu ac yn gweithredu darn o feddalwedd, ac yn ymchwilio i broblem o natur arbrofol, ddamcaniaethol, dadansoddi data, offeryniaeth neu fodelu cyfrifiadurol o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i weithdai, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, cyflwyniadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|