BSc

Cyfrifiadureg / Daearyddiaeth Ffisegol

Cyfrifiadureg / Daearyddiaeth Ffisegol Cod FG84 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig strwythur cwrs rhyngweithiol, amrywiol a chyffrous, sy'n cyfuno theori, astudiaethau maes ac astudiaethau yn y labordy.

Drwy gael eich addysgu gan staff sy'n cael eu harwain gan ymchwil, mewn amgylchedd dysgu cefnogol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gyfrifiadura, gan gynnwys: systemau gweithredu, telathrebu, rheoli cronfeydd data, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, methodolegau Agile a gogwydd gwrthrychau - ochr yn ochr â'r prosesau ffisegol sy'n ffurfio'r ddaear, o'r môr i afonydd, o rewlifoedd i losgfynyddoedd, a thirweddau o'r anialwch i'r Arctig.

Byddwch yn cael cynnig teithio ar Daith Maes Ryngwladol yn ystod eich ail flwyddyn o astudio. Bydd y cyfuniad o'r ddwy ddisgyblaeth hon yn eich paratoi â chyfres unigryw o sgiliau i ddatrys problemau cymhleth, yn enwedig mewn Geowybodeg. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglen radd gyfun BSc mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn cynnig cyfuniad ysgogol o ddwy ddisgyblaeth wyddonol a thechnolegol sy'n gweddu i'w gilydd, gan gydbwyso astudiaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â chymhwysiad ymarferol.

Pam astudio Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth?

Mae ein cyrsiau cyfrifiadureg wedi'u hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n golygu eu bod yn bodloni safonau a gofynion y diwydiant, gan roi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.

Mae'r Adran Cyfrifiadureg hefyd yn Ganolfan Ragoriaeth benodedig gan Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cymru. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 100% o'r ymchwil yr aseswyd ei effaith yn ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol.

Mae llawer o'n staff Cyfrifiadureg yn gweithio ar flaen y gad yn eu disgyblaethau, ac mae ganddynt brofiad helaeth yn y diwydiant, yn aml yn gweithio mewn cydweithrediad â chwmnïau rhyngwladol mawr, felly gallwch fod yn hyderus y byddwch yn dysgu'r cysyniadau diweddaraf ac yn gweithio gyda thechnolegau o'r radd flaenaf.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan adran ymchwil fawr, mae'r cyfleusterau sydd ar gael i chi'n ardderchog. Ynghyd â labordai dysgu sydd â gweithfannau aml-gyfrwng o ansawdd uchel, sydd wedi'u cefnogi gan weinyddion canolog pwerus a labordy Systemau Digidol, mae gan yr Adran Cyfrifiadureg ystod eang o offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer ymchwil, sydd ar gael i fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf sy'n dewis cyflawni prosiectau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae'r rhain yn cynnwys robotiaid diwydiannol, robotiaid symudol arbrofol, nifer o systemau tracio symudiad a gwelededd, a meddalwedd arbenigol niferus megis amgylcheddau rhithwir.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth yn un o'r adrannau hynaf ac uchaf eu parch o'i bath ym Mhrydain. Fel un o gymunedau Daearyddiaeth mwyaf dynamig a mwyaf gwledydd Prydain, mae modd i ni gynnig ystod eang iawn o arbenigeddau daearyddol, sy'n amrywio o bryderon am newid hinsawdd, effaith amgylcheddol echdoriadau folcanig, a thueddiadau cyfredol o ran geoberyglon i gynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthol a dyfodol y genedl-wladwriaeth, ymhlith eraill.

Mae llawer o'n darlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar sy'n flaengar yn eu disgyblaethau, a byddwch yn elwa ar gael dysgu'r damcaniaethau a'r technegau daearyddol diweddaraf. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 78% o'r ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran yn ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol.

Mae gan y labordai addysgu ac ymchwil ddetholiad trawiadol o offer dadansoddi, megis sbectomedrau màs a sganwyr craidd, ac mae ystod eang o offer ar gael ar gyfer gwaith maes, megis cynnal arolygon, canfod o bell, a samplu dŵr a gwaddod. Mae adnoddau eraill yn cynnwys llyfrgell fapiau ddigidol, mynediad at ddata'r cyfrifiad, a recordwyr a thrawsgrifwyr ar gyfer gwaith arolwg cymdeithasol. Mae ein darpariaeth gyfrifiadurol heb ei ail, gyda chymorth ardderchog ar y we ar gael.

Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
How to Build a Planet GS11520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
Hanfodion Datblygu'r We CC11010 10
Hanfodion Datblygu'r We CC11010 10
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
Problems and Solutions CS10720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc DA34220 20
Prosiect Byr CC39620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Environmental Management GS31120 20
Glaciers and Ice Sheets GS33420 20
Monitoring our Planet's Health from Space GS32020 20
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig DA31720 20
Volcanic Activity: Hazards and Environmental Change GS30420 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Bydd gradd mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn arbennig o werthfawr mewn sefyllfaoedd cyflogaeth ym maes geowybodeg. Bydd y gydran Cyfrifiadureg yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd ym maes dylunio meddalwedd, cyfathrebu a rhwydweithio, rhaglenni cyfrifiadurol, datblygu'r we, ymgynghori a rheoli technoleg gwybodaeth, dadansoddi a datblygu systemau, gwerthu a marchnata cyfrifiaduron. Bydd y gydran Daearyddiaeth Ffisegol yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd mewn cartograffeg, ymgynghori amgylcheddol, cynnal arolygon, systemau gwybodaeth daearyddol, cynllunio a datblygu trefi

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i ymdrin â chysyniadau haniaethol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, ac mae'n gweithio gyda busnesau lleol i greu lleoliadau gwaith cyflogedig am gyfnod o ychydig wythnosau i fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr, a fydd yn gwella eich CV ac yn eich gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr posib.

Cynllun Datblygu Personol

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Dysgu ac Addysgu

Mae ffocws dwbl ar addysgu ac ymchwil yn creu amgylchedd bywiog a chroesawgar i weithio ynddo. Cyflawnir yr addysgu drwy ddarlithoedd ac astudiaethau ymarferol, wedi'u hategu gan diwtorialau llai, ac asesir drwy waith cwrs ac arholiadau.

Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn agos-atoch, ac maent yn ymroddedig i'ch paratoi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn ystod ac ar ôl eich astudiaethau.

Eich tiwtor personol

Drwy gydol eich amser yn Aberystwyth, bydd gennych gyfle i gwrdd yn rheolaidd â thiwtor personol, a all gynnig cymorth gydag unrhyw anhawster gyda'ch gradd neu fywyd yn y brifysgol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM - MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|