Mae'r rhaglen radd gyfun BSc mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn cynnig cyfuniad ysgogol o ddwy ddisgyblaeth wyddonol a thechnolegol sy'n gweddu i'w gilydd, gan gydbwyso astudiaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â chymhwysiad ymarferol.
Pam astudio Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth?
Mae ein cyrsiau cyfrifiadureg wedi'u hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n golygu eu bod yn bodloni safonau a gofynion y diwydiant, gan roi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch chi'n cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
Mae'r Adran Cyfrifiadureg hefyd yn Ganolfan Ragoriaeth benodedig gan Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cymru. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 100% o'r ymchwil yr aseswyd ei effaith yn ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol.
Mae llawer o'n staff Cyfrifiadureg yn gweithio ar flaen y gad yn eu disgyblaethau, ac mae ganddynt brofiad helaeth yn y diwydiant, yn aml yn gweithio mewn cydweithrediad â chwmnïau rhyngwladol mawr, felly gallwch fod yn hyderus y byddwch yn dysgu'r cysyniadau diweddaraf ac yn gweithio gyda thechnolegau o'r radd flaenaf.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan adran ymchwil fawr, mae'r cyfleusterau sydd ar gael i chi'n ardderchog. Ynghyd â labordai dysgu sydd â gweithfannau aml-gyfrwng o ansawdd uchel, sydd wedi'u cefnogi gan weinyddion canolog pwerus a labordy Systemau Digidol, mae gan yr Adran Cyfrifiadureg ystod eang o offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer ymchwil, sydd ar gael i fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf sy'n dewis cyflawni prosiectau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae'r rhain yn cynnwys robotiaid diwydiannol, robotiaid symudol arbrofol, nifer o systemau tracio symudiad a gwelededd, a meddalwedd arbenigol niferus megis amgylcheddau rhithwir.
Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth yn un o'r adrannau hynaf ac uchaf eu parch o'i bath ym Mhrydain. Fel un o gymunedau Daearyddiaeth mwyaf dynamig a mwyaf gwledydd Prydain, mae modd i ni gynnig ystod eang iawn o arbenigeddau daearyddol, sy'n amrywio o bryderon am newid hinsawdd, effaith amgylcheddol echdoriadau folcanig, a thueddiadau cyfredol o ran geoberyglon i gynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthol a dyfodol y genedl-wladwriaeth, ymhlith eraill.
Mae llawer o'n darlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar sy'n flaengar yn eu disgyblaethau, a byddwch yn elwa ar gael dysgu'r damcaniaethau a'r technegau daearyddol diweddaraf. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2014), barnwyd bod 78% o'r ymchwil a gyflwynwyd gan yr Adran yn ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n ardderchog yn rhyngwladol.
Mae gan y labordai addysgu ac ymchwil ddetholiad trawiadol o offer dadansoddi, megis sbectomedrau màs a sganwyr craidd, ac mae ystod eang o offer ar gael ar gyfer gwaith maes, megis cynnal arolygon, canfod o bell, a samplu dŵr a gwaddod. Mae adnoddau eraill yn cynnwys llyfrgell fapiau ddigidol, mynediad at ddata'r cyfrifiad, a recordwyr a thrawsgrifwyr ar gyfer gwaith arolwg cymdeithasol. Mae ein darpariaeth gyfrifiadurol heb ei ail, gyda chymorth ardderchog ar y we ar gael.
Ein Staff
Mae gan bron bob un o ddarlithwyr a chymrodyr dysgu’r Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd a chymrawd dysgu newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Rhagolygon Gyrfaol
Bydd gradd mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn arbennig o werthfawr mewn sefyllfaoedd cyflogaeth ym maes geowybodeg. Bydd y gydran Cyfrifiadureg yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd ym maes dylunio meddalwedd, cyfathrebu a rhwydweithio, rhaglenni cyfrifiadurol, datblygu'r we, ymgynghori a rheoli technoleg gwybodaeth, dadansoddi a datblygu systemau, gwerthu a marchnata cyfrifiaduron. Bydd y gydran Daearyddiaeth Ffisegol yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd mewn cartograffeg, ymgynghori amgylcheddol, cynnal arolygon, systemau gwybodaeth daearyddol, cynllunio a datblygu trefi
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth Ffisegol yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- sgiliau ymchwil a dadansoddi data
- sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- y gallu i ymdrin â chysyniadau haniaethol
- sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)
Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.
GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, ac mae'n gweithio gyda busnesau lleol i greu lleoliadau gwaith cyflogedig am gyfnod o ychydig wythnosau i fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr, a fydd yn gwella eich CV ac yn eich gwneud yn fwy atyniadol i gyflogwyr posib.
Cynllun Datblygu Personol
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae ffocws dwbl ar addysgu ac ymchwil yn creu amgylchedd bywiog a chroesawgar i weithio ynddo. Cyflawnir yr addysgu drwy ddarlithoedd ac astudiaethau ymarferol, wedi'u hategu gan diwtorialau llai, ac asesir drwy waith cwrs ac arholiadau.
Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn agos-atoch, ac maent yn ymroddedig i'ch paratoi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn ystod ac ar ôl eich astudiaethau.
Eich tiwtor personol
Drwy gydol eich amser yn Aberystwyth, bydd gennych gyfle i gwrdd yn rheolaidd â thiwtor personol, a all gynnig cymorth gydag unrhyw anhawster gyda'ch gradd neu fywyd yn y brifysgol.