Mae Cyfrifiadureg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod ystod eang o hanfodion - isadeiledd, rhaglennu, datblygu'r we, cyfathrebu, technoleg a mwy.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS)ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n caniatáu i chi ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth, ac yn cynnwys dadansoddi, dylunio, dewis datrysiad a gweithredu.
Caiff y sgiliau a ddysgir drwy'r cwrs hwn eu dysgu ar sail ymchwil blaengar mewn amgylchedd dysgu cefnogol, ac mae galw mawr amdanynt ymhlith darpar gyflogwyr.
Trosolwg o'r Cwrs
Why study Computer Science at Aberystwyth University?
Employability is embedded in the structure of this degree.
The degree is accredited by the BCS (the Chartered Institute for IT) on behalf of the Engineering Council, which gives you a head start when you enter the competitive job market.
You will have access to dedicated Linux, Mac OS X laboratories and central servers.
It is taught by lecturers who have close links with the industry and software engineering conferences.
You will have access to robotic equipment including Arduinos, mobile robots and sailing robots.
Ein Staff
Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:
dylunio meddalwedd
cyfathrebu a rhwydweithio
rhaglenni cyfrifiadurol
datblygu'r we
rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
dadansoddi a datblygu systemau
gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
addysg
Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r gradd?
Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.
Bydd y cwrs hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:
sgiliau cyfathrebu
sgiliau dadansoddol
rheoli amser
y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau trefnu
sgiliau gweithredu
sgiliau ymchwil
sgiliau technegol
Diddordeb mewn lleoliad gwaith?
Os ydych chi'n awyddus i gyflawni Blwyddyn mewn Diwydiant, yna gallwch newid i'n cynllun gradd G401. Mae'r cynllun hwn yr un peth â Chyfrifiadureg, ond rydym yn rhoi blwyddyn ychwanegol i chi ei threulio yn y Diwydiant.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:
rhaglennu
isadeiledd cyfrifiaduron
datblygu'r we
problemau ac atebion
Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:
ein modiwl cylch oes datblygu meddalwedd a fydd yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect neu ddylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn yr arferion diwydiannol cyfredol gorau ar bob cam
strwythurau data ac algorithmau
modiwlau dewisol cyffrous eraill
technolegau, technegau a phrosesau datblygu ar gyfer adeiladu meddalwedd gweithredol go iawn
prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, ymarferion a gwaith prosiect unigol/grŵp.
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Tystiolaeth Myfyrwyr
Mae Cyfrifiadureg yn bwnc diddorol ac amrywiol iawn, gyda phwyslais ar ystod eang o bynciau, er enghraifft: peirianneg meddalwedd, datblygu'r we, rhwydweithio a chynllunio gyrfa. Mae'r cwrs yn ddymunol iawn, ac mae modd ei deilwra i allu a dewisiadau unrhyw un. Oliver Roe
Roedd fy nghwrs i'n wirioneddol ddiddorol a gwerthfawr. Mae'r darlithwyr yn broffesiynol ac yn barod i helpu, ac mae'r cwrs yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth bynciol. Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn gyflwyniad braf a hwylus i faes cyfrifiadureg. Fel myfyriwr oedd heb ddim profiad blaenorol yn y maes, ro'n i'n weddol betrusgar pan ddes i i'r Brifysgol, ond ymhen rhai wythnosau ro'n i'n llawn brwdfrydedd wrth gael prosiect heriol ond gwerthfawr i'w gyflawni. Daniel William James Drave