BSc

Cyfrifiadureg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Cyfrifiadureg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod G401 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Cyfrifiadureg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod ystod eang o hanfodion - isadeiledd, rhaglennu, datblygu'r we, cyfathrebu, technoleg a mwy.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n caniatáu i chi ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth, sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dewis datrysiad a gweithredu.

Caiff y sgiliau a geir drwy'r cwrs hwn eu dysgu ar sail ymchwil blaengar mewn amgylchedd dysgu cefnogol, ac mae galw mawr amdanynt ymhlith darpar gyflogwyr – gyda'r Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol a Diwydiannol Integredig, byddwch yn rhoi'r dechrau gorau i'ch rhagolygon gyrfa.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn strwythur y radd hon.
  • Mae'r radd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n rhoi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch yn cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
  • Cewch fynediad at weinyddion canolog a labordai pwrpasol Linux a Mac OS X.
  • Caiff ei haddysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos gyda'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
  • Cewch fynediad at offer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Algorithmau a Strwythurau Data CC21120 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Artificial Intelligence CS26520 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Scientific Python CS24520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Hir CC39440 40
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura CC38220 20
Agile Development and Testing CS31310 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Algorithms CS31920 20
Computational Bioinformatics CS31420 20
Computer Graphics and Games CS32420 20
Mobile Development with Android CS31620 20

Gyrfaoedd

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • rheoli ac ymgynghori technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg

Pa sgiliau bydda i'n eu dysgu o'r radd?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd ein gradd.

Fel rhan o'ch gradd, bydd angen i chi gymryd rhan mewn penwythnos preswyl yn y flwyddyn gyntaf lle byddwch chi a myfyrwyr eraill yn gweithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella'r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddol
  • rheoli amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau technegol

Mae cyfle gan fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant i ymuno â phenwythnos preswyl ail flwyddyn sy'n canolbwyntio ar sgiliau i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith gwych. Mae hyn yn cynnwys:

  • sgiliau CV
  • ymarfer ar gyfer cyfweliad
  • rhwydweithio gyda chyflogwyr
  • presenoldeb ar-lein 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • rhaglennu
  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • datblygu'r we
  • problemau ac atebion

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • ein modiwl cylch oes datblygu meddalwedd a fydd yn eich galluogi i gymryd rôl sy'n bodoli yn y diwydiant, hynny yw rheolwr prosiect neu ddylunydd ac ati, a bydd gofyn i chi gynhyrchu darn o feddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn yr arferion diwydiannol cyfredol gorau ar bob cam
  • strwythurau data ac algorithmau
  • modiwlau dewisol cyffrous eraill.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith, gyda chymorth yr adran. Erbyn diwedd y lleoliad hwn bydd gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol yn y gweithle. Byddwch hefyd yn dychwelyd i'r Brifysgol gydag ymdeimlad cryfach o gymhelliant.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • astudio technolegau, technegau a phrosesau datblygu ar gyfer adeiladu meddalwedd gweithredol go iawn
  • prosiect unigol, lle byddwch yn datblygu darn o feddalwedd mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi
  • amrywiaeth o bynciau dewisol pellach i arbenigo mewn meysydd o'ch dewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp. 

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Cyfrifiadureg yn bwnc diddorol ac amrywiol iawn, gyda phwyslais ar ystod eang o bynciau, er enghraifft: peirianneg meddalwedd, datblygu'r we, rhwydweithio a chynllunio gyrfa. Mae'r cwrs yn ddymunol iawn, ac mae modd ei deilwra i allu a dewisiadau unrhyw un. Oliver Roe

Roedd fy nghwrs i'n wirioneddol ddiddorol a gwerthfawr. Mae cyflawni blwyddyn mewn diwydiant wedi gwella fy sgiliau rhaglennu ymarferol ddeg gwaith drosodd, os nad mwy. Mae'r darlithwyr yn broffesiynol ac yn barod i helpu, ac mae'r cwrs yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth bynciol. Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn gyflwyniad braf a hwylus i faes cyfrifiadureg. Fel myfyriwr oedd heb ddim profiad blaenorol yn y maes, ro'n i'n weddol betrusgar pan ddes i i'r Brifysgol, ond ymhen rhai wythnosau ro'n i'n llawn brwdfrydedd wrth gael prosiect heriol ond gwerthfawr i'w gyflawni. Daniel William James Drave

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|