Celfyddydau Creadigol
BA Celfyddydau Creadigol Cod WW48
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
WW48-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
39%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae'r profiad dysgu unigryw hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddilyn llwybr o'ch dewis drwy ac ar draws pedair disgyblaeth greadigol ar y cyd; Celfyddyd Gain, Ysgrifennu Creadigol, Theatr, Perfformio a Senograffeg, a Ffilm a Theledu. Byddwch yn dewis ystod o fodiwlau o bob disgyblaeth, a fydd yn cynnwys un modiwl cyd-destunau diwylliannol yn ystod y tair blynedd.Ynghyd â chyfres o fodiwlau o'ch dewis, byddwch yn dilyn y gyfres o fodiwlau craidd rhyngddisgyblaethol; Arfer Rhyngddisgyblaethol 1-6. Yn y modiwlau hyn, byddwch yn cydweithio fel grŵp trwy gyfres o weithdai wythnosol yn seiliedig ar arfer a phroses, tuag at ganlyniad ar y cyd dan arweiniad y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn creu ac yn datblygu cyfres o brosiectau arfer ac ymchwil rhyngddisgyblaethol annibynnol a hunangyfeiriedig, gan gyfrannu at broffil o chwe phrosiect a ddatblygwyd yn ystod y cwrs tair blynedd. Bydd gennych gyfle i arddangos eich chwe phrosiect mewn dwy arddangosfa gyhoeddus bob blwyddyn. Bydd y gyntaf yn yr Ysgol Gelf, a'r ail yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle byddwch yn llwyfannu'ch prosiectau safle-benodol y tu mewn ac o gwmpas un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf gwledydd Prydain, sydd wedi cael gwobr RIBA ac sy'n cael dros 70,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol mewn arfer proffesiynol drwy weithdai grŵp, arfer hunangyfeiriedig, cyfleoedd rheoli digwyddiadau sydd ar gael i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn, ac arddangosiadau cyhoeddus, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd yn uniongyrchol i'r diwydiant creadigol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Ysgol Gelf (ACF 2020).
Mae'r Ysgol Gelf yn ail yn y DU am brofiad dysgu ac yn drydedd yn y DU am ansawdd y ddysgu ( The Good University Guide, The Times & Sunday Times 2018).
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Lefel A BBB-CCC, plus satisfactory portfolio
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM, plus satisfactory portfolio
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|