BA

Ysgrifennu Creadigol

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Cewch ddysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglennol, ysgrifennu ffeithiol, a mwy. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen er mwyn cael gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol. Dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau, byddwch yn datgelu doniau cudd, ac yn dysgu pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl gorffen y radd hon, nid yn unig y bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol rhagorol, ond bydd gennych sgiliau a nodweddion er mwyn ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r gair ysgrifenedig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ein gradd yn cynnig cwricwlwm eang sy'n croesi ffiniau traddodiadol genre, ffurf a swyddogaeth.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr y diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes.
  • Byddwch yn fyfyriwr mewn sîn greadigol ffyniannus sydd â hanes hir a llwyddiannus o fod yn sbringfwrdd ar gyfer doniau newydd.
  • Gallwch archwilio cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
  • Gallwch elwa ar ein cydberthynas unigryw gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae'r cyfleuster hwn, sydd ar y campws, yn adnodd ardderchog i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
  • Cewch fynediad digyfyngiad i'r Llyfrgell Genedlaethol (un o'r pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain).

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • ffuglen
  • ffeithiol
  • barddoniaeth
  • sgriptio
  • radio
  • theatr.

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill ym meysydd:

  • cyhoeddi
  • golygu
  • newyddiaduraeth
  • marchnata a chyfathrebu
  • addysgu.

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • giliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau cychwynnol yn dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testun eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod:

  • ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • ffyrdd o ysgrifennu'n ddisgrifiadol
  • pwysigrwydd plot
  • defnydd o ddeialog
  • ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • "sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich gwaith darllen ac ymchwil
  • nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").

Ar y cwrs gradd hwn, bydd hyblygrwydd ichi ddewis modiwlau opsiynol o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd – dwy adran sy'n cynnig nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol mewn meysydd fel sgriptio, ysgrifennu ar gyfer y radio, ysgrifennu ar gyfer y teledu, a llawer mwy.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn meistroli:

  • damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol drwy gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol
  • gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
  • eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio.

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|