BA

Ysgrifennu Creadigol a Drama a Theatr

BA Ysgrifennu Creadigol a Drama a Theatr Cod W841 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd drwy gyfrwng llenyddiaeth a llwyfannau'r cyfryngau, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol a Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Cewch ddysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglennol, ysgrifennu ffeithiol, a mwy. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol a Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ein gradd yn cynnig cwricwlwm eang sy'n croesi ffiniau traddodiadol genre, ffurf a swyddogaeth.
  • Gallwch elwa ar ein cysylltiadau gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Quarantine, Imitating the Dog a Phrosiect Magdalena.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr y diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes.
  • Byddwch yn fyfyriwr mewn sîn greadigol ffyniannus sydd â hanes hir a llwyddiannus o fod yn sbringfwrdd ar gyfer doniau newydd.
  • Cyfleoedd profiad gwaith gyda'r cwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf yng Nghymru; Boomerang +PLC a Theatr Arad Goch.
  • Gallwch archwilio cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Gallwch elwa ar ein cydberthynas unigryw gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae'r cyfleuster hwn, sydd ar y campws, yn adnodd ardderchog i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
  • Cewch fynediad digyfyngiad i'r Llyfrgell Genedlaethol (un o'r pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain).
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Ffuglen
  • Ffeithiol
  • Barddoniaeth
  • Sgriptio
  • Radio
  • Theatr

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill:

  • Cyhoeddi
  • Golygu
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Addysgu

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd Ysgrifennu Creadigol a Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau cychwynnol yn dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testun eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod:

  • Astudio Theatr
  • Cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol
  • Datblygu eich sgiliau ymarferol ar bob cam o broses gynhyrchu'r cyfryngau
  • Ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • Ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • "Sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Creu Theatr Gyfoes
  • Theatr Ewropeaidd
  • Shakespeare a pherfformio cyfoes
  • Perfformio ar gyfryngau newydd a sgriptio perfformiadau
  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • Eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich gwaith darllen ac ymchwil
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn meistroli:

  • Theatr, Rhywedd a Rhywioldeb
  • Sgriptio
  • Ffuglen naratif
  • Damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol drwy gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol
  • Gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
  • Eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio.

Rydyn ni'n asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|