BA

Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu

BA Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu Cod WP83 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd drwy gyfrwng llenyddiaeth a llwyfannau'r cyfryngau, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Cewch ddysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglennol, ysgrifennu ffeithiol, a mwy. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen er mwyn cael gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol. Dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau, byddwch yn datgelu doniau cudd, ac yn dysgu pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl gorffen y radd hon, nid yn unig y bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol rhagorol, ond bydd gennych hefyd sgiliau a nodweddion er mwyn ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r agwedd greadigol a'r gair ysgrifenedig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae ein gradd yn cynnig cwricwlwm eang sy'n croesi ffiniau traddodiadol genre, ffurf a swyddogaeth.
  • Gallwch elwa ar ein cysylltiadau gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Quarantine, Imitating the Dog a Phrosiect Magdalena.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr y diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes.
  • Byddwch yn fyfyriwr mewn sîn greadigol ffyniannus sydd â hanes hir a llwyddiannus o fod yn sbringfwrdd ar gyfer doniau newydd.
  • Cyfleoedd profiad gwaith gyda'r cwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf yng Nghymru; Boomerang +PLC a Theatr Arad Goch.
  • Gallwch archwilio cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Gallwch elwa ar ein cydberthynas unigryw gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae'r cyfleuster hwn, sydd ar y campws, yn adnodd ardderchog i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
  • Gallwch fanteisio ar fynediad digyfyngiad i'r Llyfrgell Genedlaethol (un o'r pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain).
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV Drama FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law FM36720 20
Screening the Brave New World: television in 20th-century Britain FM31020 20
Videogame Theories FM38420 20
Ali Smith and 21st Century fiction(s) EN33620 20
Big Ideas: Writing Popular Science WR32720 20
Crisis Writing WR31820 20
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Humour and Conflict in Contemporary Writing WR32820 20
Literatures of Surveillance WL35320 20
Poetry for today WR31220 20
Remix: Chaucer In The Then and Now WL30620 20
TESOL Materials Development and Application of Technologies IC33420 20
The Writing Project WR30040 40
Writing Crime Fiction WR32420 20
Writing Horror WR31920 20
Writing Music WR32620 20
Writing and Place WR32120 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Haunting Texts EN30820 20
Reading Theory / Reading Text EN30120 20
Romantic Eroticism EN30520 20
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920s EN31320 20
Victorian Childhoods EN30320 20
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English EN30420 20

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Ffuglen
  • Ffeithiol
  • Barddoniaeth
  • Sgriptio
  • Radio
  • Theatr

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill:

  • Cyhoeddi
  • Golygu
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Addysgu

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau cychwynnol yn dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testun eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.

 Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod:

  • Astudiaeth o Ffilm a Theledu
  • Cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol
  • Datblygu eich sgiliau ymarferol ar bob cam o broses gynhyrchu'r cyfryngau
  • Ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • Ffyrdd o ysgrifennu'n ddisgrifiadol
  • Pwysigrwydd plot
  • Defnydd o ddeialog
  • Ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • "Sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Creu Theatr Gyfoes
  • Theatr Ewropeaidd
  • Shakespeare a pherfformio cyfoes
  • Perfformio ar gyfryngau newydd a sgriptio perfformiadau
  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • Eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich gwaith darllen ac ymchwil
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn meistroli:

  • Cyfryngau arbrofol
  • Sgriptio
  • Ffuglen naratif
  • Damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol drwy gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol
  • Gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
  • Eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio.

Rydyn ni'n asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|