Pam astudio Ysgrifennu Creadigol gyda Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Byddwch yn elwa drwy gaffael arbenigedd technegol mewn ffordd ddisgybledig, ffurfio deallusrwydd creadigol, ac ymwybyddiaeth hanesyddol, feirniadol, ddamcaniaethol a chyfoes o arfer Celfyddyd Gain.
- Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi'i dyfarnu â Statws Amgueddfa Achrededig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith yn gofalu ac yn rheoli'r casgliadau o'r safon uchaf.
- Gallwch archwilio cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
- Byddwch yn dysgu gan staff profiadol, sy'n artistiaid, awduron, curaduron a haneswyr celf sydd ag enwau da yn rhyngwladol.
- Gallwch gymryd rhan mewn ymweliadau astudio ym Mhrydain neu dramor (ymhlith lleoliadau blaenorol mae Madrid, Paris, Rhufain, Amsterdam, Efrog Newydd, Fiena, Barcelona, Fenis, Moscow, St Petersburg, Fflorens, Bwdapest a Lisbon).
- Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chydfyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
Ein Staff
Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.
Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?
Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:
- Ffuglen
- Ffeithiol
- Barddoniaeth
- Sgriptio
- Radio
- Theatr.
Mae rhai o'n graddedigion wedi mynd i yrfaoedd llwyddiannus eraill:
- Cyhoeddi
- Golygu
- Newyddiaduraeth
- Marchnata a Chyfathrebu
- Addysgu.
Ynghyd â sefydlu gyrfaoedd fel artistiaid sy'n ymarfer, mae rhai o'n graddedigion wedi cael eu cyflogi gan y canlynol:
- Y Cyngor Dylunio
- Cyngor y Celfyddydau
- Oriel Tate
- Amgueddfa Fictoria ac Albert
- Academi Frenhinol y Celfyddydau
- Cwmni Teledu Carlton
- The Observer
- Oriel Saatchi
- Damien Hirst
- BBC
- Cylchgrawn Viz
- Yr Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol.
Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?
Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn chwarae rhan hanfodol yn eich cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.
Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:
- y gallu i fynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
- sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
- tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
- meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
- y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
- sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig yr hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol i ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testunau yn eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
- Ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
- Ffyrdd o ysgrifennu'n ddisgrifiado
- Pwysigrwydd plot
- Creu Printiau
- Arlunio a Phaentio
- Astudiaethau Ystafell Fywyd
- Hanes Celf
- Defnydd o ddeialog
- Ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
- Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
- Meddwl ac arfer rhyngddisgyblaethol
- Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
- "Sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:
- Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
- Eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich darllen a'ch ymchwil
- Rhaglen o ymchwil ac arfer hunangyfeiriedig dan arweiniad tiwtor, sy'n dangos ymagwedd arbrofol ac sy'n rhoi mynegiant i lais personol fel artist
- Ymagwedd hunan-feirniadol tuag at waith creadigol a dulliau proffesiynol
- Eich arfer celf o fewn cyd-destunau cyfoes a thraddodiadau hanesyddol
- Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").
Mae gan fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen radd hon hyblygrwydd i ddewis modiwlau opsiynol o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, dwy adran sy'n cynnig nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol mewn meysydd fel sgriptio, ysgrifennu ar gyfer y radio, ysgrifennu ar gyfer y teledu, a llawer mwy.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn meistroli:
- Damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol yn y gwaith o gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol;
- Cynhyrchu corff o waith sy'n dangos cydlyniad cysyniadol a thechnegol
- Y seiliau pynciol a chysyniadol a ddysgwyd yn ystod y tair blynedd i gynhyrchu corff o waith ansoddol i'w arddangos i'r cyhoedd
- Gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
- Eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy
- Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chydfyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio. Rydyn ni'n asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.