BA

Ysgrifennu Creadigol a Ffrangeg

BA Ysgrifennu Creadigol a Ffrangeg Cod WR81 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Byddwch yn dysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglen, ysgrifennu ffeithiol a mwy, yn ogystal â dosbarthiadau iaith wythnosol, lle bydd eich cymhwysedd yn Ffrangeg yn ffynnu. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen er mwyn cael gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol. Dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau, byddwch yn datgelu doniau cudd, ac yn dysgu pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl gorffen y radd hon, nid yn unig y bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol rhagorol, ond bydd gennych sgiliau a nodweddion er mwyn ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r gair ysgrifenedig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol a Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ymhlith yr 20 uchaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer y pwnc Ysgrifennu Creadigol, yn ôl y Canllaw Prifysgolion Da (The Times a'r Sunday Times 2019). 
  • Mae'r cyfuniad o Ffrangeg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnig cwricwlwm eang sy'n croesi ffiniau traddodiadol genre, ffurf, swyddogaeth, diwylliant, ieithyddiaeth, ffilm a llenyddiaeth. Fel myfyriwr yn yr Adran Ieithoedd Modern a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn rhan o sîn greadigol ffyniannus sydd â hanes hir a llwyddiannus o fod yn sbringfwrdd ar gyfer doniau newydd.
  •  Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnig ystod eang o fodiwlau sy'n eich galluogi i archwilio'r cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Yn yr Adran Ieithoedd Modern, mae'r ystod eang o fodiwlau'n amrywio o ieithyddiaeth (fodern a hanesyddol); dialecteg (astudiaeth o wahanol ffurfiau ar Ffrangeg, o'r gorffennol a'r presennol); llenyddiaeth; hanes syniadau a mudiadau artistig; portreadau llenyddol o Baris, llenyddiaeth teithio a materion cyfoes.
  • Bydd pob myfyriwr ar y cwrs hwn yn treulio eu trydedd flwyddyn yn byw'n annibynnol mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Gallech ddewis astudio yn y Brifysgol, gweithio fel cynorthwyydd iaith, neu ffurfiau eraill ar leoliadau gwaith. Yn ystadegol, mae graddedigion ieithoedd modern ymhlith y graddedigion mwyaf cyflogadwy. 
  • Yn adroddiad Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2017 a gyhoeddwyd yn 2018, nodwyd bod gradd mewn Ieithoedd Modern yn cynnig llwybr clir tuag at swydd neu astudiaeth bellach. Yn ein hadran ni, roedd 95% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach ymhen 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). Yn ogystal, bu i'r Canllaw Prifysgolion Da a gyhoeddir gan y Times a'r Sunday Times ein gosod ymhlith y deg adran orau o ran rhagolygon graddedigion (canlyniadau cyflogaeth) ar gyfer pwnc Ffrangeg. Mae ein dull pwrpasol o addysgu yn sicrhau y bydd eich cyfnod pontio o'r brifysgol i'r byd gwaith yn un llyfn. 
  • Mae'r radd hon ar gael i ddechreuwyr a myfyrwyr ar lefel uwch. Bydd dechreuwyr yn cyflawni cwrs dwys yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginning the Novel WR20220 20
French Language FR20130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A Century in Crisis: 1790s to 1890s WL20720 20
Adventures with Poetry WR22120 20
Effective Academic and Professional Communication 1 IC27720 20
Shaping Plots WR21720 20
Short stories: Grit and Candour WL20320 20
Telling True Stories: ways of Writing Creative Non-Fiction WR21120 20
Writing Selves WR20620 20
Classical Drama and Myth CL20320 20
Contemporary Queer Fiction EN21620 20
Contemporary Writing and Climate Crisis EN21120 20
In the Olde Dayes: Medieval Texts and Their World EN23120 20
Literary Geographies EN21020 20
Literary Modernisms EN20920 20
Literary Theory: Debates and Dialogues EN20120 20
Literature and Climate in the Nineteenth Century EN21220 20
Literature since the '60s EN22920 20
Place and Self EN22120 20
TESOL Approaches, Methods and Teaching Techniques IC23420 20
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 EN28720 20
"...ISMES" Cultural and Artistic Movements in 20th c. France FR29110 10
Brazilian / Portuguese Language II EL20720 20
Extended Essay Module EL20510 10
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR21020 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR27820 20
Humour and Literature FR26120 20
L'Art Du Récit (19e - 20e Siècles) FR23320 20
Language of Business 1 FR20310 10
Narrating and Visualising French Colonialism FR28020 20
Self-Writing, 18th-21st Centuries FR27020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
French Language FR30130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Big Ideas: Writing Popular Science WR32720 20
Crisis Writing WR31820 20
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Humour and Conflict in Contemporary Writing WR32820 20
Literatures of Surveillance WL35320 20
Poetry for today WR31220 20
Remix: Chaucer In The Then and Now WL30620 20
TESOL Materials Development and Application of Technologies IC33420 20
The Writing Project WR30040 40
Writing Crime Fiction WR32420 20
Writing Horror WR31920 20
Writing Music WR32620 20
Writing and Place WR32120 20
Ali Smith and 21st Century fiction(s) EN33620 20
Haunting Texts EN30820 20
Reading Theory / Reading Text EN30120 20
Romantic Eroticism EN30520 20
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920s EN31320 20
Victorian Childhoods EN30320 20
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English EN30420 20
"...ISMES" Cultural and Artistic Movements in 20th c. France FR39110 10
Brazilian / Portuguese Language III EL30720 20
Dissertation EL30120 20
Extended Essay Module EL30510 10
Gender in Modern and Contemporary French Culture FR31020 20
History, Film and Memory: Representing World Wars in French cinema FR37820 20
Humour and Literature FR36120 20
L'Art Du Rêcit (19e - 20e Siècles) FR33320 20
Narrating and Visualising French Colonialism FR38020 20
Self-writing, 18th-21st Centuries FR37020 20
The Language of Business and Current Affairs FR30310 10

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Ffuglen
  • Ffeithiol
  • Barddoniaeth
  • Sgriptio
  • Radio
  • Theatr.

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill:

  • Cyhoeddi
  • Golygu
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Addysgu.

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol yn creu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan, a'r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred bendant bod angen bod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol dda, gan gynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sgiliau cychwynnol yn dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o lenyddiaeth a chynhyrchu testun eich gwaith creadigol eich hun, gan archwilio'r gydberthynas rhwng arfer creadigol a beirniadol.

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr wythnosol o waith iaith, sy'n cynnwys gwaith:

  • Llafar
  • Ysgrifenedig
  • Clywedol
  • Cyfieithu.

 Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod:

  • Ystod o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • Ffyrdd o ysgrifennu'n ddisgrifiadol
  • Pwysigrwydd plot
  • Defnydd o ddeialog
  • Yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Ffrangeg, a chyflwyno ymchwil annibynnol
  • Eiliadau sefydlu diwylliant Ffrangeg
  • Yr iaith drwy ffilm, iaith a hunaniaeth
  • Ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • Amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" ac ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • "Sylwebaeth feirniadol" a sgiliau ymchwil i awduron.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • Eich arddull ysgrifennu eich hun, wedi'i llywio gan eich gwaith darllen ac ymchwil
  • Ein modiwlau cynnwys ar lenyddiaeth Ffrangeg, iaith, hanes celf, diwylliannau'r Ffrainc gyfoes
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsddodiad").

Mae gan fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen radd hon hyblygrwydd i ddewis modiwlau opsiynol o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd – dwy adran sy'n cynnig nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol mewn meysydd fel sgriptio, ysgrifennu ar gyfer y radio, ysgrifennu ar gyfer y teledu, a llawer mwy.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch: 

  • Yn dechrau eich Blwyddyn Dramor o astudio neu leoliadau gwaith.

Yn ystod y flwyddyn olaf, byddwch yn meistroli:

  • Damcaniaeth i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol drwy gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a'i werthuso'n feirniadol
  • Gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect ysgrifennu yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig)
  • Eich cymhwysedd iaith ymhellach ar ôl treulio blwyddyn yn Ffrainc
  • Dewis o blith ystod o fodiwlau yn amrywio o Lenyddiaeth, Ffilm, Diwylliant a Busnes
  • Creu eich Traethawd Hir, sef uchafbwynt eich blynyddoedd israddedig, yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol estynedig, wedi'i ysgrifennu yn Ffrangeg
  • Eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan awduron yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, ffuglen queer, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol, a llawer mwy.
  • Hefyd, yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir ein cwrs drwy ystod o ffurfiau traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda phwyslais penodol ar weithdai a seminarau disgyrsiol. Nid darlithoedd yw'r norm, ond cânt eu defnyddio pan mae'n hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un i un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio.

Rydyn ni'n asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyniadau portffolio a thraethodau, ynghyd ag arholiadau a chyflwyniadau traddodiadol mewn rhai modiwlau.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB-BBC to include B in French (unless to be studied as a beginner)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level French (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 to include 5 points in French (unless to be studied as a beginner) at Higher Level.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|