Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg
BA Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg Cod WR84 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
WR84-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrOs oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu, a datblygu eich llais, ac os hoffech archwilio, darganfod ac ymgolli yn y geiriau sydd wedi siapio ein byd, yna mae'r radd Ysgrifennu Creadigol a Sbaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn berffaith i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Byddwch yn dysgu'r grefft o farddoni, sgriptio, ysgrifennu ffuglen, ysgrifennu ffeithiol a mwy, yn ogystal â dosbarthiadau iaith wythnosol, lle bydd eich cymhwysedd yn Sbaeneg yn ffynnu. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol y mae arnoch eu hangen er mwyn cael gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol. Dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau, byddwch yn datgelu doniau cudd, ac yn dysgu pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl gorffen y radd hon, nid yn unig y bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol rhagorol, ond bydd gennych sgiliau a nodweddion er mwyn ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r gair ysgrifenedig.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|