BA

Ysgrifennu Creadigol a Hanes

BA Ysgrifennu Creadigol a Hanes Cod WV81 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella, ehangu a datblygu eich llais, ac os ydych chi am ddarganfod, trin a thrafod, ac ymdrwytho yn y geiriau a'r cyfnodau hanesyddol sydd wedi siapio ein byd trwy gyfrwng llenyddiaeth a llwyfannau cyfryngau a diwylliant, yna gradd mewn Ysgrifennu Creadigol a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r radd i chi. Bydd ein gradd drawsddisgyblaethol yn eich cyflwyno i ddiwydiant sy'n ehangu'n barhaus, gan roi dechrau addawol a manteisiol i chi ar ôl graddio. Dysgwch grefft ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen, llyfrau ffeithiol, sgriptiau a mwy. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau creadigol. O dan arweiniad arbenigol tîm o awduron sydd wedi ennill gwobrau lu, byddwch yn darganfod doniau cudd ac yn darganfod pa fath o awdur ydych chi. Ar ôl cwblhau'r radd hon bydd gennych bortffolio o ddeunydd creadigol arbennig ynghyd â'r sgiliau a'r priodoleddau i ffynnu mewn unrhyw weithle sy'n gofyn am fedrusrwydd gyda'r agwedd greadigol a'r gair ysgrifenedig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ysgrifennu Creadigol a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae’r elfen Ysgrifennu Creadigol ar y cwrs hwn yn eich galluogi i ddarganfod ein rhaglen gynhwysfawr sy'n cynnwys rhyddiaith, barddoniaeth, ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, newyddiaduraeth, ac ysgrifennu ar gyfer cyfryngau newydd. Mae cyfle i chi ffynnu a datblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr elfen Hanes ar y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi edrych ar sawl cyfnod o Hanes, gan gynnwys Hanes yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar, Gwleidyddiaeth a Hanes Modern, Hanes a Hanes Cymru. Mae gennym hefyd ystod eang o fodiwlau cyffrous sy'n cynnwys Europe and the World (1000-2000), Medieval and Early Modern Britain and Europe (1000-1800), History as Myth-Making: the ‘myth of the Blitz’, Image Wars in South East Asia: Studying 20th Century Propaganda, i enwi ond ychydig.

Uchafbwynt i fyfyrwyr ar y cwrs hwn yw'r encil ysgrifennu a drefnir yn ystod y drydedd flwyddyn. Mae'r encil ysgrifennu yn eich galluogi i fireinio eich sgiliau a'ch doniau ysgrifennu, datblygu eich galluoedd ymhellach a thyfu fel awdur creadigol gyda'ch cyfoedion. Encil preswyl yw hwn, ac mae blynyddoedd blaenorol wedi ymweld â Gregynog, neuadd adnabyddus tua awr a hanner i ffwrdd o Aberystwyth. 

Gelwir prif gampws addysgu’r Brifysgol yn Gampws Penglais, a hwn yw ein hwb dysgu a chymdeithasu. Addysgir y cwrs hwn ar draws dwy adran sy'n cynnwys yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a'r Adran Hanes a Hanes Cymru, ac mae’r ddwy adran wedi'u lleoli ar gampws Penglais. Gallwch weld y ddwy adran ar ein Taith Rithwir.

Ddrws nesaf i Gampws Penglais mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llyfrgell hawlfraint sy'n cynnwys copi o bob llyfr sydd wedi’i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Mae’r llyfrgell yn adnodd hollbwysig i'r radd hon.

Ein Staff

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginning the Novel WR20220 20
Literary Theory: Debates and Dialogues EN20120 20
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
'The lyf so short, the craft so long to lerne': Medieval Models of Literary Production WL23120 20
A Century in Crisis: 1790s to 1890s WL20720 20
Adventures with Poetry WR22120 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Classical Drama and Myth CL20320 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Contemporary Writing and Climate Crisis EN21120 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Effective Academic and Professional Communication 1 IC27720 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Germany since 1945 HY29620 20
In the Olde Dayes: Medieval Texts and Their World EN23120 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY22120 20
Literary Geographies EN21020 20
Literary Modernisms EN20920 20
Literature and Climate in the Nineteenth Century EN21220 20
Literature since the '60s EN22920 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY29820 20
Place and Self EN22120 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY27720 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Shaping Plots WR21720 20
Short stories: Grit and Candour WL20320 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
TESOL Approaches, Methods and Teaching Techniques IC23420 20
Telling True Stories: ways of Writing Creative Non-Fiction WR21120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Writing Selves WR20620 20
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 EN28720 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
The Sound of History: the Civil Rights Movement in Post-War America HY24720 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY38420 20
Germany since 1945 HY39620 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY32120 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY39820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY37720 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The European Reformation HY36520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
Ali Smith and 21st Century fiction(s) EN33620 20
Big Ideas: Writing Popular Science WR32720 20
Crisis Writing WR31820 20
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Haunting Texts EN30820 20
Humour and Conflict in Contemporary Writing WR32820 20
Literatures of Surveillance WL35320 20
Poetry for today WR31220 20
Reading Theory / Reading Text EN30120 20
Remix: Chaucer In The Then and Now WL30620 20
Romantic Eroticism EN30520 20
TESOL Materials Development and Application of Technologies IC33420 20
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920s EN31320 20
The Writing Project WR30040 40
Victorian Childhoods EN30320 20
Writing Crime Fiction WR32420 20
Writing Horror WR31920 20
Writing Music WR32620 20
Writing and Place WR32120 20
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English EN30420 20

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Ffuglen
  • Ffeithiol
  • Barddoniaeth
  • Ysgrifennu ar gyfer y sgrin
  • Radio
  • Theatr

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd eraill:

  • Cyhoeddi
  • Golygu
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Dysgu

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o feithrin cyswllt, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a deinamig. Yma gallwch arddangos eich gwaith, meithrin cyswllt a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol wrth greu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio yn unol â therfynau amser
  • hunanddibyniaeth a’r gallu i ysgogi eich hunan, a’r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • Sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) a reolir gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Mae’r radd hon yn seiliedig ar ein cred gref bod angen i chi fod yn ddarllenwr da er mwyn bod yn awdur gwirioneddol wych, wrth gynnig yr hyblygrwydd i chi ddatblygu fel awdur ar draws ystod o ddulliau creadigol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol wrth ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol, ochr yn ochr ag astudio sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Drwy gydol y cwrs byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth am lenyddiaeth a chynhyrchu testun yn eich gwaith creadigol eich hun, gan edrych ar y berthynas rhwng ymarfer creadigol a beirniadol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu am:

  • Amrywiaeth o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth;
  • Dulliau o ysgrifennu disgrifiadol;
  • Sgiliau a chysyniadau hanesyddol newydd, a chyflwyniad cynhwysfawr i sgiliau astudio ar lefel prifysgol, drwy ein modiwl craidd Cyflwyniad i Hanes ym Mlwyddyn 1.
  • Pwysigrwydd plot;
  • Defnyddio deialog;
  • Rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i'r chwiorydd Brontë);
  • Testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi;
  • Sawl "ffordd o ddarllen" a rhai dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau;
  • "Y sylwebaeth feirniadol" a'r sgiliau ymchwil ar gyfer awduron.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol;
  • Eich arddull ysgrifennu eich hun, yn seiliedig ar eich darllen a'ch ymchwil;
  • Y ffyrdd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser, trwy ein modiwl craidd ‘Llunio Hanes’ ym Mlwyddyn 2; 
  • Nifer o bynciau arbenigol lle byddwch yn gwneud ymchwil fanwl, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac ymwneud ag ysgolheictod o’r radd flaenaf;
  • Nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsosod").

Mae gan fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen radd hon hyblygrwydd i ddilyn modiwlau opsiynol o'r Adran Astudiaethau Ffilm, Theatr a Theledu, ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac mae’r ddwy adran yn cynnig nifer o fodiwlau ysgrifennu creadigol mewn meysydd megis sgriptio, ysgrifennu ar gyfer y radio, ysgrifennu ar gyfer y teledu a llawer mwy.

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn meistroli:

  • Theori i awduron a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a’i werthuso’n feirniadol;
  • Gwaith ysgrifennu estynedig ac ymchwil annibynnol yn eich prosiect ysgrifennu yn y flwyddyn olaf (wedi’i ddewis a’i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur sydd wedi cyhoeddi’i waith) 
  • Eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau dewisol yn cynnwys pynciau megis drama yn oes Elisabeth, y stori ysbryd, ffuglen cwiar, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol a ffantasi, a llawer mwy.

Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Cyflwynir ein cwrs trwy ystod o leoliadau traddodiadol ac anhraddodiadol gyda phwyslais arbennig ar weithdai a seminarau. Nid darlithoedd yw'r norm ond fe'u defnyddir pan fydd yn hanfodol cyfleu deunydd penodol sy'n canolbwyntio ar wybodaeth. Bydd tiwtorialau un-wrth-un hefyd yn nodwedd reolaidd yn eich amserlen, yn enwedig tua diwedd eich rhaglen astudio.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy gyflwyno portffolios, traethodau ac, ar rai modiwlau, cyflwyniadau ac arholiadau traddodiadol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in an English related subject at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in an English related subject

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|