BA

Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol: Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd

BA Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol: Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd Cod V700 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r BA mewn Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyflwyniad i’r agweddau treftadaeth ddiwylliannol yn y proffesiynau llyfrgell, archifau a threftadaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw agwedd ar waith mewn llyfrgell, archif neu amgueddfa, gan gynnwys chwilio am wybodaeth, helpu eraill i chwilio am wybodaeth, a sut mae ein treftadaeth a'n gwybodaeth yn cael eu storio, eu rhannu a'u cadw - y radd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r union beth i chi. 

Mae’r radd Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol wedi derbyn achrediad proffesiynol gan CILIP, sef y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae elfen hanesyddol gref i’r cwrs Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol ac mae'n golygu y gallwch gyfuno’ch diddordeb mewn hanes â dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o sut mae gwybodaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i defnyddio gan bobl o bob cefndir – yn hanesyddol, addysgol a chymdeithasol. Mae'r radd hon, a gynigir ar y cyd gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru a'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth, yn manteisio ar ein cryfderau hirsefydlog mewn hyfforddiant proffesiynol ym meysydd astudiaethau gwybodaeth a llyfrgelloedd, archifau, a rheoli cofnodion, ochr yn ochr â Hanes a Hanes Cymru.  

Cewch hyfforddiant mewn rheoli a defnyddio gwybodaeth, adnoddau treftadaeth, archifau a chofnodion - yn wrthrychau corfforol ac ar fformatau digidol fel ei gilydd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth yn y maes hwn. Mae'r cynllun gradd hwn yn hybu’ch gallu i gynnal ymchwil, i archwilio a dadansoddi, ac i leisio’ch syniadau.  

Dyma rai o'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol yn Aberystwyth: 

  • astudio mewn tref hanesyddol 'gyfoethog o ran gwybodaeth' sy'n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig sy’n ymgorffori Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru) ac sy’n cynnal arddangosfeydd ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru yn rheolaidd); Cyngor Llyfrau Cymru 
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Ceredigion, llyfrgelloedd ac archifau'r Brifysgol, ac amrywiaeth o adnoddau a sefydliadau perthnasol eraill 
  • cael eu dysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn gweithio mewn agweddau ar y pwnc lle mae'r pwyslais ar ymarfer proffesiynol. Mae llawer o'r staff yn gwneud ymchwil sy'n berthnasol i ddatblygiad damcaniaethol ac ymarferol y ddisgyblaeth a'r proffesiynau cysylltiedig. I ganfod mwy am ein staff, ewch i'n tudalen staff yr adran.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion y radd hon wedi cael eu paratoi'n dda at yrfa mewn sefydliad diwylliannol, neu mewn swydd weinyddol sy’n cynnwys cyfrifoldeb am gadw cofnodion. Ac enwi ychydig o enghreifftiau, byddai hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n ystyried gweithio fel cynorthwyydd archifol neu sydd am gael hyfforddiant proffesiynol ôl-raddedig mewn gweinyddu archifau a rheoli cofnodion. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu am: 

  • Sylfeini Astudiaethau Gwybodaeth 
  • Tirwedd Treftadaeth Ddiwylliannol 
  • Cyfathrebu Dynol 
  • Yr Etifeddiaeth Archifol 
  • Cyflwyniad i Hanes.  

Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn byddwch yn astudio: 

  • Gwybodaeth mewn Byd sy'n Newid 
  • Hanes diwylliannol cadw cofnodion 
  • Darganfod adnoddau a rheoli gwybodaeth ddigidol 
  • Rheoli casgliadau a sefydliadau treftadaeth 
  • Llunio Hanes 
  • Astudiaethau lleol a threftadaeth gymunedol. 

Sylwer, yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, y gallwch ddewis o blith ystod o fodiwlau dewisol a fydd yn ategu’ch modiwlau craidd. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|