BA

Cymraeg / Daearyddiaeth

BA Cymraeg / Daearyddiaeth Cod LQ75 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cynllun gradd BA Cymraeg / Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio dau bwnc hynod ddiddorol yn un o leoliadau prydferthaf Prydain. Wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd, Aberystwyth yw’r lle delfrydol i gael eich ysbrydoli wrth i chi astudio iaith a llenyddiaeth Cymru law yn llaw â daearyddiaeth y wlad. Ar fodiwlau Cymraeg y radd hon, cyflwynir pynciau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Bydd BA Cymraeg / Daearyddiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o fewn y ddwy ddisgyblaeth a bydd hynny’n siŵr o gynnal eich diddordeb a’ch herio i wneud y gorau o’ch amser yn Aberystwyth, ynghyd â chynnig cyfleoedd gyrfaol cyffrous i chi yn y dyfodol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Cymraeg a Daearyddiaeth yn ddau bwnc tra gwahanol ond sydd yn mynd law yn llaw. Mae Aberystwyth yn fan unigryw lle gellir gwneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu ac mae’n cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. 

Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs hwn yn arbenigwyr mewn amrywiol feysydd. Yn ogystal â’r modiwlau craidd y mae’n rhaid eu hastudio, cewch ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau a fydd yn eich diddori, yn y ddwy adran. 

Yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ceir amrywiaeth hynod ddiddorol o gyrsiau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf y darlithwyr. O hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, ac astudiaethau menywod a rhywedd, i ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, a chyfieithu ac addasu, bydd digon o bynciau i'ch diddori a’ch herio. Mae'r cwrs gradd hwn yn cynnig llwybr iaith gyntaf ac ail iaith a cheir bywyd cymdeithasol Cymraeg byrlymus yn yr adran. 

Ar fodiwlau Daearyddiaeth y radd byddwch yn dysgu am ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol yn bennaf, ond cewch hefyd gyfle i ystyried y pwnc o wahanol safbwyntiau megis hanes, yr economi, diwylliant, y gymdeithas a gwyddoniaeth. Cewch fod yn rhan o adran fawr, ddeinamig. Cynigir amrywiaeth eang iawn o bynciau, o brosesau dalgylch afon, a rhewlifeg i gynaliadwyedd trefol, a daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol. Yn ogystal â’r dewis eang o bynciau, cynigir gyfleoedd i wneud gwaith maes yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor, a cheir cyfle i ennill arian tuag at eich anturiaethau eich hun. 

Ceir hefyd gyfleusterau rhagorol yma yn Aberystwyth megis labordai llawn cyfarpar gydag amrywiaeth o offerynnau dadansoddi, y dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi'r dysgu, a llyfrgelloedd gwych. Yn ogystal â hynny, gellir cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych yn hawdd iawn o gampws y Brifysgol.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Concepts for Geographers GS20410 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
Placing Culture GS22920 20
Quantitative Data Analysis GS23810 10

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch. 

Beth gallaf ei wneud â gradd Cymraeg / Daearyddiaeth?  

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael gwaith mewn meysydd mor amrywiol ag: addysg, cyfieithu, cyhoeddi, cynllunio trefol, tirfesuriaeth, y cyfryngau, y gwasanaeth sifil, ymgynghori ar yr amgylchedd, yr heddlu. 

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.  

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a'r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Cyfleoedd Rhyngwladol  

Yn ogystal â phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad ein myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn dysgu sut i edrych ar feirdd a llenorion o 1900 hyd heddiw mewn modd beirniadol; dysgu am brif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol; archwilio ffigurau llenyddol Cymru (barddoniaeth a rhyddiaith) mewn modd beirniadol; cael eich cyflwyno i sgiliau trosglwyddadwy astudio iaith a llên a fydd o gymorth i chi ar gyfer llunio aseiniadau ysgrifenedig a datblygu sgiliau mwy cyffredinol; astudio cyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol; trafod y byd cyfoes trwy’r Gymraeg er mwyn atgyfnerthu eich sgiliau llafar; a datblygu sgiliau ysgrifenedig a’ch dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. 

Ar y modiwlau Daearyddiaeth, byddwch yn archwilio thema eang byw gyda newid byd-eang lle cewch eich cyflwyno i'r prif heriau daearyddol ac amgylcheddol sy'n wynebu dynoliaeth a'r ffyrdd y cânt eu trin a'u rheoli. Bydd newid a gwrthdaro hefyd yn themâu yn y flwyddyn gyntaf, a sut mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, y cysylltiadau rhyngddynt, y gwrthdaro sy’n dod yn sgil newidiadau a’r strategaethau ar gyfer cyd-fyw mewn modd cadarnhaol. Yn olaf, cewch fynd i'r afael â lle a hunaniaeth, gan archwilio cymhlethdodau cysylltiadau hunaniaeth sy’n gysylltiedig â lle a sut y caiff y cysylltiadau hynny eu dylanwadu gan gysylltiadau o bŵer.  

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn meithrin eich gallu i ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru’n raenus ac yn parhau â modiwl y flwyddyn gyntaf sy’n edrych ar gyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol, gan gynnwys confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Yn ogystal â hynny, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol ichi yn y gweithle proffesiynol dwyieithog yng Nghymru. 

Ym maes Daearyddiaeth, byddwch yn dysgu sut i ddylunio ymchwil ac yn meithrin sgiliau gwaith maes. Byddwch yn derbyn cefnogaeth benodol i ddatblygu sgiliau ymchwil drwy ddysgu sut i lunio cwestiynau ymchwil a dylunio’r strategaethau a fydd yn sail iddi. Cewch hefyd gyflwyniad i systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) ac ennill profiad ymarferol wrth gyflwyno, trafod, dadansoddi a dehongli data gofodol. 

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn parhau i weithio ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir a’i llefaru’n raenus ond fel arall byddwch yn rhydd i ddethol o blith ystod eang iawn o fodiwlau yn y ddau bwnc. Gweler y tab modiwlau i gael rhagor o wybodaeth. Ar yr un pryd, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol ym maes Daearyddiaeth, gan dynnu ar yr wybodaeth a ddysgwyd yn yr ail flwyddyn a dilyn y camau arferol sy’n rhan o ymchwilio - o ddewis pwnc ymchwil addas i ysgrifennu’r adroddiad terfynol.

Sut bydda i’n cael fy addysgu? 

Ar y modiwlau Cymraeg, fe'ch addysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Ar y modiwlau Daearyddiaeth, cewch eich dysgu mewn darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes, ac un wrth un ar gyfer y gwaith prosiect. 

Sut bydda i’n cael fy asesu? 

Cewch eich asesu trwy gyfrwng amrywiol ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd fodiwlau lle mae disgwyl i chi lunio adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes yn benodol, yn cael eu hasesu’n trwy waith cwrs yn gyfan gwbl. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|